Pico Hydro – Astudiaeth Dichonoldeb

Astudiaeth Dichonoldeb i ganfod a yw technoleg pico-hydro yn opsiwn cynhyrchu ynni dichonadwy ac ymarferol i fusnesau ac adeiladau cymunedol yng Ngwynedd?

Pico-hydro yw’r dechnoleg hydro ar gyfer cynhyrchu llai na 5 KW (bach iawn) sy’n cael ei ddefnyddio ar y safle fel arfer, yn hytrach na chael ei allforio i’r grid. Bydd tyrbin pico-hydro nodweddiadol yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer goleuadau a gwresogi, ond ni fydd yn rhedeg peiriannau.

Er gwaethaf cynhyrchu allbynnau pŵer is gyda llai ar gael i’w allforio neu ei werthu, gall y system hon leihau costau ynni yn sylweddol. Gan gysylltu’r system gyda batris ar gyfer storio wrth gefn, mae gan y system Pico-hydro y potensial i ddarparu trydan ar y safle i gwrdd â pheth o’r galw o sefydliadau cyhoeddus megis ysgolion cynradd, neuaddau cymunedol gwirfoddol a busnesau gwledig, fel adeiladau allanol ar ffermydd.

Mae CNC hefyd yn ymchwilio i’r posibilrwydd o symleiddio’r broses drwyddedu ar gyfer pico-hydro ar safleoedd priodol, a gall fod lle i’r treial hwn lywio’r gwaith hwnnw.

Roedd hwn yn brosiect dichonolrwydd a oedd yn ymchwilio i ymarferoldeb technoleg pico-hydro mewn Ysgolion Cynradd.

Dogfennau:

Adroddiad Terfynol Hydro Bach – Cymraeg

Adroddiad Ysgol Bontnewydd

Adroddiad Ysgol Llanystumdwy

Adroddiad Ysgol Rhostryfan

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU