Arloesi Gwynedd Wledig

Rydym yn chwilio am atebion arloesol i heriau sy’n wynebu economi Gwynedd. Gwnawn hyn trwy dreialu dulliau newydd, gyda rhai ohonynt yn llwyddo ac yna’n cael eu hailadrodd, ac eraill yn methu â chyrraedd amcanion cychwynnol, ond defnyddir y mewnwelediadau gwerthfawr ohonynt i lywio prosiectau yn y dyfodol.

Mae gan AGW adnoddau ariannol a dynol i gefnogi prosiectau peilot ac rydym yn cydweithio â chymunedau o ddiddordeb i’w gweithredu. Dylai’r rhain gael eu hystyried yn “brawf o gysyniad” ac ni roddir cymorth i weithgarwch presennol.

Mae AGW yn ymgysylltu’n fras i nodi camau addas. Anogir grwpiau ac unigolion i gynnig prosiectau ac yna gall AGW eu haddasu os oes angen er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â’n hamcanion ehangach. Bydd AGW hefyd yn datblygu ei brosiectau ei hun er mwyn animeiddio sector, neu i gwmpasu sawl gweithred sy’n berthnasol i un her.

Ni ddylid gweld AGW fel ffynhonnell o arian prosiect, ac mae’r broses yn wahanol iawn i’r broses grantiau traddodiadol. Mae gennym ddiddordeb mewn syniadau newydd sydd â’r potensial o fod o fudd i Wynedd, yn hytrach na gweithgareddau sy’n ymateb i anghenion un busnes neu sefydliad.

Os hoffech ddarllen mwy am ein hamcanion penodol, mae’r dogfennau hyn yn mynd â chi trwy grynodeb o’r ‘themâu’ amrywiol yr holl brosiectau yn ôl categori…

Sut i gymryd rhan?

Taith rithiol ydi’r broses, a byddwn yn mynd a chi ar daith i ganfod heriau eich cymuned, a gweithio gyda chi i ganfod atebion arloesol.

  1. I ddechrau, llenwch y ffurflen hon ac yna byddwch yn clywed yn ôl gan aelod o’r tîm fydd yn gweithio’n agos gyda chi.
  2. Byddwn yn trefnu gweithdy “Datganiad Her” i fynd at wraidd eich problem.
  3. Byddwch yn gweithio gyda ni i ganfod atebion i’ch her, a bydd hynny’n cael ei hwyluso drwy weithdy “Cynhyrchu Syniadau” yn arbennig ar eich cyfer.

Yn dilyn y broses yma, byddwn yn ystyried adnoddau dynol a chyllidol sydd ei hangen er mwyn ateb yr her, a byddwn yn gwireddu.

Beth yw Arloesi Gwynedd Wledig?

Mae Arloesi Gwynedd Wledig yn rhaglen LEADER sy’n datblygu ac yn gweithredu prosiectau peilot mewn cydweithrediad â’r gymuned. Cyflwynir AGW gan Menter Môn.

Menter trydydd sector yw Menter Môn, sy’n gweithredu yng Ngwynedd ac Ynys Môn ar sail di-elw. Rheolir AGW gan Grŵp Gweithredu Lleol Gwynedd. Mae Grŵp Gweithredu Lleol Gwynedd yn cynnwys 18 o unigolion o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Cawsant eu recriwtio trwy ddefnyddio proses ddethol agored ac maent yn meddu ar ystod o sgiliau sy’n adlewyrchu amcanion AGW.

Darganfyddwch pwy yw aelodau Grŵp Gweithredu Lleol Gwynedd…

Rydym yn cynnal cyfarfodydd Grŵp Gweithredu Lleol Gwynedd bob chwarter. Mae'r cyfarfodydd hyn yn rhoi diweddariad cyffredinol ar yr holl brosiectau cyfredol, yn ogystal â chynllunio a chymeradwyo prosiectau i’r dyfodol...

Sut y cyllidir AGW?

Mae AGW yn cyflwyno rhaglen LEADER yr UE yng Ngwynedd, sy’n cefnogi datblygiad gwledig o’r gwaelod i fyny. Yn ogystal â chyllid yr UE, mae AGW hefyd yn derbyn cyllid trwy Lywodraeth Cymru, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Chyngor Gwynedd. Rhaglen chwe blynedd yw LEADER, sy’n rhedeg o 2015 i 2021.

Darganfyddwch beth yw LEADER Gwynedd a sut mae’n gweithio…

Dyma yw Strategaeth Datblygu Lleol Gwynedd...

Rhybudd Preifatrwydd AGW

Mae Arloesi Gwynedd Wledig wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd pan rydych yn gweithio gyda ni neu yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn esbonio sut a pham yr ydym yn defnyddio a gwarchod eich gwybodaeth bersonol. Cliciwch isod i ddarllen Rhybydd Preifatrwydd Arloesi Gwynedd Wledig.

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU