Bws Hoppa Harlech

Prosiect peilot oedd yn rhedeg bws wennol o gwmpas Harlech yn ystod gwyliau haf 2018

Pwrpas y peilot hwn oedd i benderfynu a ellir sefydlu model  sy’n gynaliadwy’n ariannol ar gyfer rhedeg y gwasanaeth bws a fydd yn talu drosto’i hun o gyfuniad o refeniw defnyddwyr a chyfraniadau gan atyniadau ymwelwyr, masnachwyr a’r Cyngor Cymuned.

Roedd y peilot hefyd yn casglu data a mewnwelediad i ddeall ymddygiad ymwelwyr â Harlech i lywio ymyriadau trafnidiaeth bellach yn y tymor hwy er mwyn gwella mynediad, profiad ymwelwyr a manteision i’r dref.

Roedd y prosiect yn rhedeg gwasanaeth bws gwennol o Faes Parcio’r Traeth i Faes Parcio Bron y Graig Isaf bob hanner awr o 9.45am i 5.45pm bob dydd yn ystod gwyliau’r haf (o ddydd Sadwrn 21ain Gorffennaf i ddydd Sul 2il Medi).

Roedd y gwasanaeth yn codi £1 y daith i oedolion a 50c i blant. Roedd ymwelwyr â’r castell yn derbyn gostyngiad o £1 i oedolion / 50c o blant ar eu ffi mynediad i’r castell wrth gynhyrchu eu tocyn bws. Roedd y tocyn (neu daleb y bydd teithwyr yn ei gael ar y bws) hefyd yn cynnig gostyngiadau gan fanwerthwyr cyfranogol yn y dref er mwyn annog ymwelwyr i archwilio’r dref ymhellach a defnyddio’r cyfleusterau lleol.

Mi fydd y gwasanaeth bws hoppa yn rhedeg eto yn ystod haf 2019.

Gwerthusiad Hoppa Harlech

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU