Astudiaeth Dichonoldeb i ganfod a yw technoleg pico-hydro yn opsiwn cynhyrchu ynni dichonadwy ac ymarferol i fusnesau ac adeiladau cymunedol yng Ngwynedd?
Pico-hydro yw’r dechnoleg hydro ar gyfer cynhyrchu llai na 5 KW (bach iawn) sy’n cael ei ddefnyddio ar y safle fel arfer, yn hytrach na chael ei allforio i’r grid. Bydd tyrbin pico-hydro nodweddiadol yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer goleuadau a gwresogi, ond ni fydd yn rhedeg peiriannau.
Er gwaethaf cynhyrchu allbynnau pŵer is gyda llai ar gael i’w allforio neu ei werthu, gall y system hon leihau costau ynni yn sylweddol. Gan gysylltu’r system gyda batris ar gyfer storio wrth gefn, mae gan y system Pico-hydro y potensial i ddarparu trydan ar y safle i gwrdd â pheth o’r galw o sefydliadau cyhoeddus megis ysgolion cynradd, neuaddau cymunedol gwirfoddol a busnesau gwledig, fel adeiladau allanol ar ffermydd.
Mae CNC hefyd yn ymchwilio i’r posibilrwydd o symleiddio’r broses drwyddedu ar gyfer pico-hydro ar safleoedd priodol, a gall fod lle i’r treial hwn lywio’r gwaith hwnnw.
Roedd hwn yn brosiect dichonolrwydd a oedd yn ymchwilio i ymarferoldeb technoleg pico-hydro mewn Ysgolion Cynradd.
Dogfennau: