Ymchwil i ddeall mwy am fodelau marchnad cynnyrch lleol y gellid eu peilota ar ynys Môn a Gwynedd, a fyddai'n gwasanaethu cymunedau, trefi neu'r sir gyfan
Yn dilyn ymchwil a wnaethpwyd gan swyddogion LEADER, ymddengys fod nifer o fusnesau bwyd wedi gorfod arallgyfeirio yn ystod COVID-19 er mwyn darparu ar gyfer eu cwsmeriaid ac er mwyn sicrhau incwm iddynt eu hunain. Mae nifer wedi/yn cydweithio gyda busnesau eraill yr ardal er mwyn parhau i allu cynnig gwasanaethau. Mae cadwyni cyflenwi bwyd lleol dan bwysau yn sgil, ac wrth geisio ymateb i COVID-19. Yn dilyn gwaith ymchwil diweddar (arolwg ar-lein) ymddengys fod 79% o unigolion bellach yn prynu’n lleol ac yn awyddus i barhau i wneud hynny wrth i gyfyngiadau COVID-19 leihau.
Mewn ymateb i COVID19, sefydlodd Menter Môn y cynllun ‘Neges’ a oedd yn danfon parseli bwyd i bobl fregus ar Ynys Môn a Gwynedd. Cefnogwyd y prosiect hwn gan yr awdurdodau lleol, y Ganolfan Technoleg Bwyd a Dylan’s. Yn ystod yr ymateb dosbarthodd Neges dros 3000 o barseli bwyd lleol dros 3 mis. Mae Menter Môn, ynghyd a rhanddeiliaid eraill yn awyddus i archwilio sut y gellid datblygu ar y cynllun, a pharhau i gefnogi’r sector fwyd a busnesau lleol ymhellach. Drwy gynlluniau AM ac AGW mae Menter Môn awyddus i ymchwilio a threialu modelau marchnad cynnyrch lleol i gefnogi’r gadwyn gyflenwi leol.
Penodwyd Myrddin Davies Cyf i arwain a chefnogi timoedd LEADER Ynys Môn a Gwynedd i ymchwilio a deall mwy am fodelau marchnad cynnyrch lleol y gellid eu peilota ar Ynys Môn a Gwynedd, a fyddai’n gwasanaethu cymunedau, trefi neu’r sir gyfan.
Mae’r prif elfennau’n cynnwys-
a) Ymchwil Llinell Sylfaen a Dadansoddiad o’r bylchau
b) Nodi rhanddeiliaid lleol
c) Darparu argymhellion / syniadau ar gyfer ymyriadau posibl y gellid eu peilota trwy LEADER yn y ddwy sir
Mae’r adroddiad terfynol ar gael yma.