Ymchwil Cynhwysiant Nantlle

Ymchwil i ddichonoldeb model Cymorth dan Arweiniad Cymunedol yn ardal Dyffryn Nantlle

Wyneba ardal Dyffryn Nantlle gyfnod o newidiadau mawr, wrth i’r awdurdod lleol fuddsoddi’n sylweddol i adfywiad yr ardal trwy sefydlu canolfan llesiant newydd, yn sgil dwysedd uchel yr ardal mewn materion megis tlodi tanwydd, tlodi bwyd a diffyg acíwt o weithwyr gofal. Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i ddatblygu model gweithredu Cymorth dan Arweiniad Cymunedol yn yr ardal, sef dull o gyflawni newid yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion ar sut dylid darparu cefnogaeth a chymorth. Caiff yr egwyddorion hyn eu gweithredu mewn ffyrdd sy’n cael eu pennu gan staff gwasanaethau, partneriaid a thrigolion lleol.

Mae AGW’n gefnogol o model o’r fath, ac wedi ymrwymo i ariannu’r gwaith ymchwil cychwynnol. Mae’r National Development Team for Inclusion wedi’u comisiynu i gwblhau’r gwaith hwn, sy’n cynnwys deall y parodrwydd lleol am newid o’r natur hwn, sut mae’r system bresennol yn gweithredu a beth yw ei gwendidau. Cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau â rhanddeiliaid er mwyn llunio’r adroddiad hwn.

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU