Prif nod y prosiect hwn yw peilota seilwaith digidol arloesol ar gyfer cysylltedd Wi-Fi cyhoeddus o gwmpas yr Wyddfa.
Bu Arloesi Gwynedd Wledig mewn trafodaeth â Pharc Cenedlaethol Eryri ar elfennau allweddol o Gynllun Partneriaeth yr Wyddfa i uwchraddio a moderneiddio seilwaith ymwelwyr hanfodol yn yr ardal, gan arwain at brofiad ymwelwyr gwell a mynediad i’r Wyddfa.
Prif nod y prosiect hwn yw peilota seilwaith digidol arloesol ar gyfer cysylltedd Wi-Fi cyhoeddus o gwmpas yr Wyddfa.
Yn ystod y broses ymgynghori a thrwy gyfnodau datblygu Cynllun Partneriaeth yr Wyddfa, pwysleisiodd llawer o randdeiliaid ac aelodau’r cyhoedd yr angen i wella cyfathrebu o amgylch yr Wyddfa. (e.e. Gwybodaeth tywydd ‘Byw’ ar y copa/ amserlen Sherpa / Llwybrau addas / manylion argyfwng).
Un rhanddeiliad pwysig a fynegodd eu barn oedd Tîm Achub Mynydd Llanberis.
“Mae wir angen gwella cysylltedd cyfathrebu o amgylch y Wyddfa ac y bydd hyn yn lleihau’r angen i anfon achubwyr ar y mynydd / osgoi galwadau …” – Phil Benbow (Cadeirydd – Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru’ / Goruchwyliwr Tasg – Tîm Achub Mynydd Llanberis)
Mae tri cham i’r prosiect hwn:
1) Y cam cyntaf fydd penodi ymgynghorydd digidol i gynnal arolwg i adolygu’r ardal, gofynion y cysylltedd. Yna, ymchwilio i ba seilwaith digidol arloesol y gellir ei dreialu o gwmpas yr Wyddfa i gael cysylltedd Wi-Fi cyhoeddus.
2) Gosod seilwaith priodol i sefydlu Mynediad Wi-Fi cyhoeddus o gwmpas yr Wyddfa. (boed yn un math, neu’n gyfuniad, o dechnoleg). Y bwriad yw gosod y seilwaith o amgylch troed yr Wyddfa. Bydd y costau’n cynnwys ymweliad safle gan gwmni TG digidol i gydlynu a chynllunio’r rhwydwaith sydd ei angen, gan gynnwys gosod yr offer cyfarpar.
3) Peilota synhwyrydd casglu data i fonitro troed yr Wyddfa ac ardal ehangach Eryri (E.e. Tywydd/ cludiant/ achub mynydd/ casglu rhoddion/ nifer y cerddwyr)
Rydym nawr wedi penodi cwmni AWTG i wneud y cam cyntaf o’r gwaith.