Trawsnewid Trefi

Cynorthwyo busnesau lleol yng Ngwynedd i adferiad economaidd yn dilyn heriau COVID-19

Bwriad Trawsnewid Trefi yw cynorthwyo busnesau lleol yng Ngwynedd i adferiad economaidd yn dilyn heriau COVID-19. Bydd y gwaith ymchwil yn archwilio i anghenion busnesau Pwllheli fel enghraifft, gan edrych ar y ffyrdd gorau o gyflwyno buddion sydd wedi’u canfod gan fusnesau a thrigolion y dref.
Bydd ymgynghorydd sy’n arbenigo yn y maes yn gweithredu ar y gwaith ymchwil, ac yn-
• Nodi’r heriau sy’n wynebu’r Stryd Fawr yn bresennol ac yn y tymor canolig drwy gynhyrchu holiadur manwl i fusnesau a phreswylwyr tref Pwllheli
• Nodi a llunio rhestr fer o atebion posib y gellid eu treialu ar y Stryd Fawr gydag enghreifftiau o ardaloedd eraill
• Gwneud cysylltiadau gyda chynrychiolwyr lleol (Cyngor cymunedol, fforwm busnes yn seiliedig ar y deipoleg a ddatblygwyd i drafod heriau a chyfleoedd enbyd a thymor canolig a deall unrhyw rwydweithiau lleol sy’n bodoli i gefnogi’r busnesau/mentrau. Bydd hyn yn gyfle i ddarganfod gwybodaeth leol ychwanegol am yr hyn yr hoffai bobl weld o ran cefnogaeth
• Cynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr addas Cyngor Gwynedd i ddeall unrhyw ymchwil perthnasol sydd eisoes wedi’u cynnal
• Paratoi adroddiad yn crynhoi canlyniadau’r uchod i gefnogi cynnydd y prosiect
• Datblygu cyfres o argymhellion a fydd yn cael eu cefnogi gan y busnesau a phreswylwyr y dref

Mae’r adroddiad ar gael yma.

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU