Ymchwil i ddichonoldeb ailddatblygu'r felin ddŵr yn Aberdaron
Bydd yr astudiaeth hon yn adeiladu ar waith blaenorol a wnaed i gadarnhau hyfywedd adfer y felin ddŵr yn Aberdaron, sef adeilad rhestredig Gradd 2. Bydd yr ymchwil yn ystyried yn benodol dichonoldeb ailddatblygu’r felin fel menter gymdeithasol weithredol, gan ganolbwyntio’n benodol ar dair sector gydberthynol; datblygu Addysg a Sgiliau, Hyrwyddo Diwylliant a Threftadaeth Wledig, a Thwristiaeth.
Mae’r astudiaeth yn rhan o raglen waith ehangach, sy’n cynnwys dyluniadau pensaernïol, adroddiadau peirianyddol manwl ar hyfywedd cadw elfennau o’r peiriannau presennol, a chyngor ar ganiatâd adeilad rhestredig.
Bydd y gwaith ymchwil ar gael yma’n fuan.