Meithrinfa Maesywaen – Cynllun Busnes

Meithrinfa Maesywaen - Cynllun Busnes

Mae’r prosiect yma yn un sydd wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Peilota Gwynedd, sef Cronfa sydd wedi cael ei dargedu at grwpiau cymunedol yng Ngwynedd i’w galluogi i dreialu gweithgareddau newydd yn eu cymunedau.

Mae Cylch Meithrin Maesywaen yn gyfrifol am reoli gweithgarwch a gweinyddiaeth gwasanaeth cylch meithrin ar gyfer yr ardal.

Roedd y Cylch Meithrin ynghyd â’i bartneriaid yn cytuno nad oedd yr adeilad presennol sef ‘Neuadd Maesywaen’ yn addas ar gyfer cynnal a datblygu’r cylch meithrin oherwydd y lleoliad anial ac chyflwr gwael yr adeilad.

Roedd Cylch Meithrin Maesywaen yn awyddus i gomisiynu arfarniad opsiynau er mwyn edrych ar ddau opsiwn lleoliad ar gyfer Canolfan Gofal Parhaus ar safle Ysgol Bro Tryweryn. Y ddau opsiwn yr oedd o dan sylw oedd gosod caban a chodi adeilad i’r pwrpas. Ar ôl penderfynu ar yr opsiwn fwyaf dichonadwy, roedd angen llunio astudiaeth dichonoldeb er mwyn amlygu materion rheolaeth a chostau refeniw yn seiliedig ar y galw tebygol yn lleol.

Aeth y grwp ati i wneud cais i Cronfa Peilota Gwynedd ac roeddent yn llwyddiannus, a cafodd y gwaith ei gwblhau mis Hydref 2018.

 

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU