Prosiect sy'n edrych ar harnesu a dadansoddi data sydd wedi ei gasglu drwy Wi-Fi mynediad agored Aberdaron
Roedd y prosiect yn ceisio dangos sut y caiff data a gasglwyd drwy Wi-Fi mynediad agored digidol yn Aberdaron ei harneisio, ei ddadansoddi a’i ecsbloetio er budd y gymuned a’r busnesau.
Daeth y system Wi-Fi ymlaen am y tro cyntaf yn Aberdaron ar ddechrau mis Mai 2016, ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn gyda busnesau a’r cyhoedd. O fewn 4 wythnos ar ôl cael ei gosod, roedd 1735 o ddyfeisiadau unigol wedi cysylltu gan lawr lwytho 111Gb o ddata. Er mwyn mewngofnodi i’r Wi-Fi, mae’n ofynnol i ddefnyddwyr ddarparu cyfeiriad e-bost, a hyd yn hyn cafwyd dros 1000 o gyfeiriadau e-byst.
Roedd 4 elfen i’r Data:
- 1. Mapio’r data i nodi sut y mae defnyddwyr y system yn symud o amgylch y pentref, hyd eu harhosiad, amser eu hymweliad, ac unrhyw ymweliadau dro ar ôl tro.
- 2. Creu ymgyrchoedd e-farchnata wedi’u targedu. Mae’n bosibl torri i lawr y gronfa ddata e-bost yn erbyn dyddiad yr ymweliad, amlder ac amser aros.
- 3. Defnyddio’r data i greu galw y tu allan i’r prif dymor e.e. gŵyl fwyd, cerddoriaeth, bysgota.
- 4. Cipio data cyfeillgar i’r farchnad i’r holiadur mynediad.