Byw a Bod yn y Gymuned

Helpu grwpiau cymunedol i recriwtio pobl ifanc i adnabod ac ymateb i'r heriau sy'n wynebu eu cymunedau

Yn ystod Haf 2020, trefnwyd galwad agored i ddarganfod pa gymunedau yng Ngwynedd oedd yn awyddus i fod yn rhan o gynllun i adnabod heriau yn eu cymuned dros gyfnod o wyth wythnos. Cymerodd 18 person o bum cymuned ran yn y cynllun, sef cymunedau Blaenau Ffestiniog, Penygroes, Bethesda, Llanystumdwy a Llanaelhaearn. Trefnwyd digwyddiadau cloi ar gyfer yr holl gymunedau ar ddiwedd y cynllun er mwyn i’r bobl ifanc rannu eu canfyddiadau. Penderfynwyd rhoi cyfle pellach i bump o’r bobl ifanc i ddatblygu eu gwaith ymchwil- tri o Bartneriaeth Ogwen a dau o Gwmni Bro Ffestiniog.

– Partneriaeth Ogwen- Creu Cynulliad Pob Ifanc
Arweiniodd Lisa Megan ymgynghoriad cymunedol ar ran Partneriaeth Ogwen yn ystod y cynllun wyth wythnos. Er iddi gyflwyno adroddiad ac ymchwil safonol, dim ond 8% o’r sampl oedd dan 25 oed, a amlyga duedd yn y gwaith ymgynghori cymunedol, a bwlch o fewn Partneriaeth Ogwen i gyrraedd y garfan bwysig hon o fewn eu cymuned. Felly, penodwyd Lisa a dwy arall, Cadi Roberts ac Elin Cain, fel swyddogion Byw a Bod i drefnu digwyddiad ymgynghori gyda phobl ifanc yr ardal. Pwrpas y digwyddiad fydd cyflwyno canfyddiadau’r arolwg cymunedol i’r bobl ifanc, yn ogystal â gofyn am eu barn a mewnbwn i waith datblygu cymunedol yn yr ardal.

– Cwmni Bro Ffestiniog-
Syniad Cian Cadwaladr oedd datblygu parc sglefrio yn ei ardal leol, Bro Ffestiniog. Mae ganddo ddiddordeb mawr yn y pwnc a trwy ei waith ymchwil, fe ddysgodd sut mae mentrau cymdeithasol ym Mhrydain wedi cyflawni eu nod o agor parc o’r fath yn eu cymunedau. Bydd Cian yn gwneud gwaith ymchwil pellach ar ran Cwmni Bro i geisio gwireddu hyn yn eu cymuned hwythau.
Bwriad Elfed yw creu cwmni cydweithredol gyda phedwar rhanbarth yng Nghymru (gan gynnwys gwlân Gwynedd a Môn) drwy edrych ar beth fyddai’n medru cael ei gynhyrchu â gwlân, yn ogystal ag adfywio hen ddiwydiant Cymru gyda gwlân ac adeiladu’r economi leol a chenedlaethol. Credai y byddai hyn yn creu swyddi lleol a chodi safon byw ffermwyr, helpu’r amgylchedd ac aildanio hen ddiwydiant yng Nghymru. Bydd Elfed hefyd yn cyfrannu tuag at gais Menter Môn i gronfa cynllun cydweithredol a datblygu’r gadwyn cyflenwi gwlan i’r llywodraeth.

– Antur Aelhaearn- Clwb gwaith a fforwm cyflogwyr
Yn ystod y cynllun wyth wythnos, casglodd Tomos a Cian wybodaeth i ddeall beth yw’r problemau a wynebai pobl ifanc Llanelhaearn a Threfor. Bydd Cian yn ymhelaethu ar eu gwaith ymchwil gyda’r gobaith o greu clwb gwaith i bobl ifanc. Byddai hyn yn ffordd o rannu gwybodaeth am waith sydd ar gael yn lleol, yn ogystal ag yn darparu hyfforddiant ar gyfer swyddi. Byddai’r clwb hefyd yn cydweithio â Fforwm Cyflogwyr yr ardal drwy hysbysebu’r sgiliau sydd eu hangen gan gyflogwyr yr ardal.

Adroddiad Diwedd Byw a Bod Rhag 2021

Fideos

Digwyddiad Cloi Partneriaeth Ogwen -

Digwyddiad Cloi Cwmni Bro Ffestiniog a CellB -

Digwyddiad Cloi Antur Aelhaearn a Menter y Plu -

Digwyddiad Cloi Siop Griffiths -

Gwlan Gwynedd a Môn -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU