Bws Arfodir Llŷn – O Ddrws i Ddrws

Prosiect peilot sy'n treialu system ddigidol i archebu ar-lein i weld os yw'n gynaliadwy i grwp cludiant cymunedol

Mae O Ddrws i Ddrws wedi bod yn rhedeg y peilot Bws Arfordir Llŷn yn llwyddiannus ers 2015, maent nawr yn awyddus i dreialu ffyrdd arloesol o wneud y bws arfordir yn gynaliadwy. Mantais y bws arfordir yw gwella mynediad i gerdded llwybr yr arfordir, mynediad i atyniadau treftadaeth, a gwella gwasanaeth teithio i bobl leol.

Wrth edrych i’r dyfodol cytunwyd bod angen peilota ffyrdd arloesol o gesio gwneud y bws yn gynaliadwy i’r dyfodol. Mae hefyd angen meithrin perthynas well rhwng busnesau lleol a’r bws arfordir, gan geisio dangos darpar ddefnyddwyr sut y gellid ei ddefnyddio a’i wneud yn rhwydd i ymwelwyr archebu.

Er mwyn archebu y bws ar hyn o bryd, mae angen i chi ffonio’r rhif ffon y swyddfa yn ystod oriau gwaith ar ddiwrnodau pan mae’r bws yn rhedeg, a gwneud cais i’r bws eich codi chi. Felly ariannwyd system ibooking ar gwfean y Bws Arfordir Llyn  lle mae modd prynu tocyn penwythnos neu unigol ar gyfer y bws dros y we yn ffordd arloesol o wneud hynny. Mae’n bosib mewnosod y system ibooking ar wefan O Ddrws i Ddrws yn ogystal a rhai eraill. Bydd y system yn cydlynu’r holl archebion i mewn i’r un system. Bydd hyn yn lleihau pwysau gwaith gweinyddol gan fydd y system yn cydlynu’r gwaith i gyd ar y cwmwl.

Mae’r adroddiad ar gael yma.

Coastal Bus Map / Map y bws arfordir

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU