Amgueddfa Forwrol Llŷn

Cynllun Busnes a Sesiynau Sadwrn dros cyfnod y gaeaf.

Mae’r prosiect yma yn un sydd wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Peilota Gwynedd, sef Cronfa sydd wedi cael ei dargedu at grwpiau cymunedol yng Ngwynedd i’w galluogi i dreialu gweithgareddau newydd yn eu cymunedau.

Agorwyd yr amgueddfa yma yn Nefyn ym mis Gorffennaf 2014; roedd amgueddfa wedi bod ar y safle rhwng 1977-2000 ond bu’n rhaid cau yn sgil cyflwr yr adeilad ac anawsterau wrth i’r sylfaenwyr gwreiddiol heneiddio. Amgueddfa weddol fach yw, sy’n rhannu hanes morwrol Penrhyn Llŷn a’r dreftadaeth hanesyddol i bobl leol ac ymwelwyr, oedolion a phlant.  Maent yn gweithio i greu balchder ymhlith y boblogaeth leol yn hanes eu hynafiaid a’r ardal nodedig lle maen nhw yn byw. Mae ganddynt gasgliad diddorol o arteffactau morol a dogfennau yn cynnwys angorion, modelau llongau, offer adeiladu llongau, penddelw nodedig, baneri, creiriau o longddrylliadau a llawer mwy. Mae gan yr Amgueddfa siop a chaffi sydd yn ddiweddar wedi cael eu adnewyddu er mwyn denu mwy o bobl.

Roedd pwyllgor yr amgueddfa yn awyddus i wneud yr Amgueddfa yn fwy hunangynhaliol i’r dyfodol wrth i’r cyfnod grant ddod i ben iddynt. Mae mynediad i’r amgueddfa am ddim, felly roedd rhaid i nhw sicrhau eu bod yn gallu denu pobl yno a gwario yn y siop a’r caffi.

Penderfynodd y pwyllgor (wedi’w wneud o griw o wirfoddolwyr), wneud cais am gymorth ariannol i’r Gronfa Peilota i drio wireddu eu gobaith o gadw’r Amgueddfa yn agored i’r cyhoedd. Roedd y cais wedi ei rannu’n ddau;

  1. 1. Cynllun Busnes er mwyn ffocysu ar gynyddu incwm
  2. 2. Sesiynau Sadwrn sef agor drysau’r amgueddfa pob dydd sadwrn yn ystod gaeaf 2018/19. Bydd digwyddiadau yn cael eu trefnu bob yn ail dydd sadwrn ar gyfer plant ac oedolion.

 

Cafodd y cais ei gymeradwyo, a bu’r amgueddfa ar agor pob dydd Sadwrn drwy’r gaeaf ar gyfer cynnal amryw o wahanol ddigwyddiadau megis gweithdy gwella sgiliau map, gweithdy archeoleg, daeareg yr ardal ayyb. Cafodd y Cynllun Busnes ei gwblhau mis Mai 2019.

 

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU