Prosiect peilot oedd yn rhedeg bws wennol o gwmpas Harlech yn ystod gwyliau haf 2018
Pwrpas y peilot hwn oedd i benderfynu a ellir sefydlu model sy’n gynaliadwy’n ariannol ar gyfer rhedeg y gwasanaeth bws a fydd yn talu drosto’i hun o gyfuniad o refeniw defnyddwyr a chyfraniadau gan atyniadau ymwelwyr, masnachwyr a’r Cyngor Cymuned.
Roedd y peilot hefyd yn casglu data a mewnwelediad i ddeall ymddygiad ymwelwyr â Harlech i lywio ymyriadau trafnidiaeth bellach yn y tymor hwy er mwyn gwella mynediad, profiad ymwelwyr a manteision i’r dref.
Roedd y prosiect yn rhedeg gwasanaeth bws gwennol o Faes Parcio’r Traeth i Faes Parcio Bron y Graig Isaf bob hanner awr o 9.45am i 5.45pm bob dydd yn ystod gwyliau’r haf (o ddydd Sadwrn 21ain Gorffennaf i ddydd Sul 2il Medi).
Roedd y gwasanaeth yn codi £1 y daith i oedolion a 50c i blant. Roedd ymwelwyr â’r castell yn derbyn gostyngiad o £1 i oedolion / 50c o blant ar eu ffi mynediad i’r castell wrth gynhyrchu eu tocyn bws. Roedd y tocyn (neu daleb y bydd teithwyr yn ei gael ar y bws) hefyd yn cynnig gostyngiadau gan fanwerthwyr cyfranogol yn y dref er mwyn annog ymwelwyr i archwilio’r dref ymhellach a defnyddio’r cyfleusterau lleol.
Mi fydd y gwasanaeth bws hoppa yn rhedeg eto yn ystod haf 2019.