Peilota system o ddarlledu digidol cymunedol fel cyfrwng i gynyddu ymwybyddiaeth, newid cymdeithas a datblygu cymunedol.
Bwriad y prosiect ydy i beilota system o ddarlledu digidol cymunedol fel cyfrwng i gynyddu ymwybyddiaeth, newid cymdeithas a datblygu cymunedol. Mewn un ardal, Bro Ffestiniog, mae nifer o fentrau wedi dod at ei gilydd er mwyn cydweithio ar ffurf rhwydwaith o fentrau a busnesau cymdeithasol dan fantell un cwmni, sef Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog.
Mae’r mudiadau a mentrau yn cynnwys Seren, Antur Stiniog, CellB/Gwallgofiaid, Barnados, Ysgol Y Moelwyn, Trawsnewid, Pengwern Cymunedol, Deudraeth cyf, GISDA, Opra Cymru a mwy. Dros gyfnod y epilot bydden yn:
- Datblygu gwefan, radio, sianel ar y we a chyfryngau cymdeithasol cynhenid.
- Cynnal trafodaethau, gweithgaredd ac ymdeimlad o berthyn a fydd yn ei dro yn ysgogi trafodaeth adeiladol ar ddatblygu a gweithredu cymunedol.
- Cynulleidfa darged: Y gymuned gyfan, y bobl leol eu hunain, a dysgwyr a mewnfudwyr yn manteisio’n naturiol o weld a chlywed iaith bob dydd ac hefyd yn eu hysbrydoli i ddod yn rhan o weithgaredd cymunedol.
- Bydd busnesau a mentrau hefyd yn hysbysebu ar BRO-Cast ac yn hyrwyddo’u busnesau, digwyddiadau a gweithgareddau.
- Byddwn hefyd yn gwethio mewn partneriaeth â’r papur bro lleol, ‘Llafar Bro’, i hyrwyddo straeon a digwyddiadau.
- Bydd ‘BRO-Cast yn ysgogi ymdeimlad o berthyn i gymuned ac yn dod â phobl yn rhan adeiladol o drafodaeth ar ddatblygiad cymdeithasol, ieithyddol ac economaidd y gymuned.
- Bydd ‘ffilmiau a newyddion ’ar lein’ yn un ffordd o ddod â dysgwyr a mewnfudwyr un cam yn nes at y gymuned cyn iddynt hyd yn oed gyrraedd – bydd yn torri ffiniau rhwng y ni a nhw honedig.
Mae cyfres o ffilms wedi’u cynhyrchu ac ar eu tudalen Facebook ‘ BROcast Ffestiniog’.