
Ynni Llŷn - Creu briff
Mae’r prosiect yma yn un sydd wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Peilota Gwynedd, sef Cronfa sydd wedi cael ei dargedu at grwpiau cymunedol yng Ngwynedd i’w galluogi i dreialu gweithgareddau newydd yn eu cymunedau.
Mae Ynni Llŷn yn Gwmni Budd Cymunedol sydd newydd ei sefydlu gyda nod o “Annog cynaliadwyedd cymunedau ym Mhen Llŷn trwy sicrhau bod ffynonellau ynni a thanwyddau yn adnewyddadwy a / neu’n fforddiadwy, yn lleihau allyriadau carbon ac yn cyfrannu at yr economi leol”
Mae datgarboneiddio gwres, trydan a thrafnidiaeth ar hyn o bryd yn gyfystyr â newid i drydan o ffynonellau adnewyddadwy. Ein nod yw annog y newid hwn trwy leihau cost trydan i ddefnyddwyr terfynol, domestig a masnachol, trwy ddefnyddio cynllun masnachu trydan lleol neu gynllun cyfoedion fel Energy Local.
Roedd y grwp yn llwyddiannus efo’u cais i’r Gronfa Peilota ar gyfer comisiynu ymgynghorydd rhwydwaith dosbarthu trydan lleol cymwys i greu briff ar ail-ddylunio rhwydwaith is-orsaf Botwnnog, gan ddefnyddio technoleg grid smart a lleihau atgyfnerthu seilwaith cyfredol, mewn modd sy’n caniatáu capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith hwnnw sy’n galluogi generaduron newydd, defnyddwyr ychwanegol (Pwyntiau tâl cyflym EV er enghraifft) a gweithredu cynllun masnachu trydan cyflenwad lleol / cymheiriaid.
Mi fydd y briff ar gael yn Gymraeg yn fuan.