Wi-Fi Aberdaron

Sefydlu pentref wledig yng Ngwynedd fel ardal sydd â chysylltiad Wi-Fi cyhoeddus.

Mae’r prosiect hwn yn ymateb arloesol i ‘fannau problemus’ ffonau symudol yng Ngwynedd wledig, yn enwedig i’r rhai sydd wedi’u heithrio’n ddigidol.

Prif nod y prosiect yw treialu cysylltiad Wi-Fi mynediad cyhoeddus ym mhentref Aberdaron. Mae ardaloedd gwledig, fel Aberdaron, yn aml yn dioddef o ddarpariaeth symudol wael iawn, ac nid oes ganddynt gysylltiad 3G/4G.  A yw’n bosibl i gymunedau gwledig wneud pethau yn eu ffordd eu hunain a darganfod ffyrdd arloesol a chreadigol o gadw i fyny â’r bywyd modern? Dyma beth mae Arloesi Gwynedd Wledig yn ceisio ei ddarganfod!

Dewiswyd Aberdaron gan Arloesi Gwynedd Wledig i dreialu sut i ddod â mynediad cyhoeddus at Wi-Fi i gymunedau anghysbell a gwledig. Mae mynediad i’r rhyngrwyd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod twristiaid modern yn gallu gwneud y gorau o’u harhosiad mewn ardal a gadael i’w ffrindiau a’u teulu wybod am yr amser gwych y maent yn ei gael.

Ariannodd Arloesi Gwynedd Wledig osodiad y rhwydwaith Wi-Fi mynediad cyhoeddus ar draws pentref Aberdaron i ddysgu sut y gallai pob cymuned yng nghefn gwlad Gwynedd redeg eu rhwydwaith Wi-Fi eu hunain. Gan fanteisio ar y band eang cyflym iawn a ddarperir i’r pentref gan Raglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru, gosododd Arloesi Gwynedd Wledig (gan weithio gyda busnesau lleol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – i gyd yn aelodau o Gyswllt Twristiaeth Aberdaron a’r Cylch) drosglwyddyddion ar eu hadeiladau gan ddod â Wi-Fi am ddim i bawb sy’n ymweld â’r pentref a’r traeth cyfochrog.

Mae pobl yn disgwyl gallu cysylltu â’r rhyngrwyd i rannu gwybodaeth ar Facebook, archebu lle mewn bwyty neu westy, neu wirio pryd mae atyniadau lleol ar agor. Bydd gallu gwneud y pethau hyn tra’n aros yn Aberdaron yn dda i fusnes. Dewiswyd pentref Aberdaron ar gyfer y peilot oherwydd ei ddaearyddiaeth unigryw ynghyd â nifer uchel o ymwelwyr. Bydd hyn yn rhoi prawf llym ar y seilwaith digidol a phrofi a oes galw am y math hwn o ddarpariaeth.

Ar ddiwedd y peilot 12 mis, bydd pecyn cymorth yn cael ei greu a fydd yn cynnwys gwybodaeth am sut y sefydlwyd y gwasanaeth ynghyd â’r holl wersi a ddysgwyd. Bydd hwn ar gael i’r cyhoedd trwy wefan Arloesi Gwynedd Wledig.

Fideos

Trosolwg o’r prosiect -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU