Gweminarau Gwlân

Cyfres o webinarau sy'n darparu gofod ac amser i barhau â'r ddadl, trafodaethau a datrysiadau posib ynghylch y prisiau gwlân hanesyddol wael yn 2020

Mae effaith pandemig COVID-19 ar y diwydiant gwlân wedi amlygu’r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu, gydag incwm y mwyafrif o gnu yn annigonol i dalu costau tyfu a chynaeafu. Mae sylw mynych yn y cyfryngau ynghyd â sawl ffermwr yn lleisio barn ar y mater ar y cyfryngau cymdeithasol wedi amlygu’r achos yn 2020, yn cynnwys llunwyr polisi a sefydliadau amrywiol sy’n ymwneud â datblygiadau economaidd.
Bydd y gyfres o bedair gweminar ar nosweithiau Llun yn ystod mis Tachwedd 2020 yn gyfle i drafod ymhellach yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant gwlân. Mae AGW yn awyddus i gefnogi gwaith peilot pellach sy’n cynnwys gwlân, oherwydd pwysigrwydd y sector defaid yng nghefn gwlad Gwynedd yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Bydd y gyfres gweminarau yn ddilyniant i’r adroddiad ‘Cyflwr Presennol a Photensial y Diwydiant Gwlân yng Ngwynedd’ a ymchwiliwyd ac a ysgrifennwyd gan Geraint Hughes a Jennifer Hunter ym mis Mawrth 2019 ar gyfer AGW.

Dyma drosolwg o gynnwys a siaradwyr gwadd y gweminarau-
– Gwlân – Y Deunydd Penigamp, Jennifer Hunter o Fernhill Farm
– Ffermwyr yn Ychwanegu Gwerth at Wlân, Eled Jones o Wlân Gwynedd a Môn/Gwlân Cymru a Sarah, Joe a Rachael Henry o Raburn Wool
– Abernigwyr Diwydiant yn Rhannu eu Profiadau, Dr Courtney Pye o’r Wool Testing Authority, Dr Graham Ormondroyd o Brifysgol Bangor a Gareth Jones o British Wool
– Fforwm Agored i Adnabod Syniadau i’w Peilota

Fideos

Pennod 1 -

Pennod 2 -

Pennod 3 -

-

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU