Store Tally

Treialu darn o dechnoleg newydd mewn siopau, busnesau a sefydliadau

Mae COVID-19 wedi ac yn parhau i osod heriau mawr i fusnesau Gwynedd ac Ynys Môn. Pwrpas ein technoleg newydd, Store Tally yw ceisio datrys rhai o’r heriau hynny. Dyfais Rheoli Dwysedd Ymwelwyr ydyw, i amlygu pwysigrwydd iechyd a diogelwch cwsmeriaid a staff i fusnesau’r ardal. Crëwyd y dechnoleg gan gwmni lleol yn M-Sparc er mwyn cyfri’r nifer o bobl sy’n mynd mewn ac allan o adeiladau. Ar ôl cyrraedd capasiti, bydd croes goch yn ymddangos i hysbysu pobl i beidio â mynd mewn i’r adeilad tan fydd arwydd gwyrdd yn caniatáu iddynt fynd mewn. Caniatâ hyn i aelodau staff barhau gyda’u cyfrifoldebau arferol, yn lle gorfod rheoli/cynorthwyo’r ciwiau y tu allan i’r adeilad.
Yn ystod y peilot, gosodwyd y dechnoleg mewn sawl busnes gwahanol yng Ngwynedd ac Ynys Môn:
Ynys Môn-
– Halen Môn
– Siop Ellis Llangefni
– Tafarn y Rhos
– Canolfan Arddio Holland Arms
– Fferm Foel
Gwynedd-
– Canolfan Arddio Fron Goch
– Spar Nefyn
– Spar Pwllheli
– Emrys House Beddgelert
– Siop Hosbis Dewi Sant Pwllheli

Fideos

Store Tally -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU