Prosiect sy'n ceisio profi gallu cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau a wasanaethau cyhoeddus
Mae’r prosiect yn ceisio dangos a phrofi gallu cymunedau i gymryd perchnogaeth a sicrhau cynaladwyedd asedau a/neu wasanaethau cyhoeddus a pheilota modelau a ffyrdd newydd ac arloesol o’u gweithredu.
Mae disgwyl cynyddol yn ddiweddar ar gymunedau i gymryd cyfrifoldeb am asedau neu wasanaethau lleol yn sgil toriadau i’r pwrs cyhoeddus. Yn sgil yr uchod roedd Arloesi yn awyddus i gydweithio gyda chymunedau yng Ngwynedd er mwyn treialu a dysgu am fodelau gwahanol o drosglwyddo gwasanaethau i drigolion lleol. Prif nod y prosiect fydd ceisio cyfrannu tuag at greu mentrau cymunedol fydd yn fecanweithiau ar gyfer darparu gwasanaethau i’r dyfodol. Cynhaliwyd galwad agored ble croesawyd ceisiadau gan gymunedau oedd yn awyddus i gydweithio. Derbyniwyd a phenderfynwyd ar gydweithio a chefnogi 6 o gymunedau o fewn y Sir, i gyd yn edrych ar wasanaethau gwahanol o lyfrgelloedd, i harbwrs, gwasanaethau bwrdeistrefol ac amgueddfa.
Cymuned | Ased/Gwasanaeth | Y gefnogaeth gychwynnol arfaethedig |
Bala | Gwasanaethau cynnal a chadw tiroedd / parcio / toiledau | Trafodaethau ynghylch y cytundebau cyfredol
Adroddiad llawn yma |
Bermo | Gwasanaethau harbwr a threfol | Cynllunio Busnes / diagnostig |
Bro Ffestiniog | Hwyluso cyfarfod cychwynnol gyda’r Cyngor Sir | |
Llanystumdwy | Amgueddfa Lloyd George | Strwythurau llywodraethu ayyb |
Nefyn | Llyfrgell | Ymchwil ddichonoldeb / diagnostig |
Dyffryn Ogwen | Llyfrgell a
Chanolfan Cefnfaes |
Ymchwil ddichonoldeb / diagnostig
Adroddiad llawn yma |
Yn sgil y prosiect yma cafodd prosiect Creu Gofod ei greu.