
Cronfa benthyciadau lleol i helpu pobl sefydlu neu ddatblygu busnes yn ardal Dyffryn Nantlle.
Yn dilyn llwyddiant Be Nesa Llŷn, rydym wedi sefydlu cronfa benthyciadau lleol i helpu pobl sefydlu neu ddatblygu busnes yn ardal Dyffryn Nantlle.
Ers 2015 rydym wedi bod yn gweinyddu cronfa benthyciadau Be Nesa Llŷn ar ran grŵp o bobl busnes yr ardal oedd yn awyddus i roi yn ôl i’r gymuned a helpu pobl ifanc i sefydlu neu ddatblygu busnes yn ardal Pen Llŷn. Ers hynny, mae’r arian wedi cael ei ailgylchu gymaint o weithiau, nes bod dros £70,000 wedi cael ei ddosbarthu i 15 busnes a menter gymdeithasol yn yr ardal. Mae’n saff dweud felly bod y gronfa yn llwyddiant ysgubol! Penderfynon felly i chwilio am fwy o gymunedau fyddai â diddordeb sefydlu model buddsoddi lleol yn eu hardal nhw. Dangosodd Antur Nantlle ddiddordeb yn y cynllun, ac felly sefydlwyd Mynd Amdani!
Mae Mynd Amdani yn gronfa sy’n benthyg arian i bobl gychwyn neu ddatblygu busnes yn Nyffryn Nantlle. Rydym yn cynnig benthyciad di-log o hyd at £5000 i bobl leol sy’n awyddus i gychwyn neu ddatblygu busnes yn y dyffryn. Rydym yn cydweithio â’r Hwb Menter i gynnig cymorth busnes i ymgeiswyr gyflwyno cais i’r panel.
Os ydych yn awyddus i gyflwyno cais yn y dyfodol, cysylltwch â robat@anturnantlle.com / 07724 902 532 am sgwrs anffurfiol.
Dogfennau defnyddiol:
Cliciwch yma am gopi o’r canllawiau
Cliciwch yma am gopi o’r ffurflen gais