
HWB Eryri
Mae’r prosiect yma yn un sydd wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Peilota Gwynedd, sef Cronfa sydd wedi cael ei dargedu at grwpiau cymunedol yng Ngwynedd i’w galluogi i dreialu gweithgareddau newydd yn eu cymunedau.
Mae HWB Eryri (CIC) yn gwmni buddiant cymunedol a sefydlwyd gan gymunedau Eryri i gymryd mwy o reolaeth ar eu ffyniant i’r dyfodol trwy gymryd mwy o ran mewn datblygu a manteisio’n uniongyrchol ar y gweithgareddau sydd eisoes yn digwydd o fewn yr hwb twristiaeth poblogaidd hwn.
Roedd yr HWB yn chwilio am gymorth ariannol ar gyfer swydd rhan amser fel Swyddog Gwybodaeth HWB ac hefyd i brynu deunyddiau hyrwyddo i’r HWB a phaneli gwybodaeth am yr ardal yn cynnwys mapiau, arwyddion ayyb. Bydd Swyddog Gwybodaeth HWB yn hysbysu ac yn cynghori’r ymwelwyr sy’n ymweld â’r ddesg wybodaeth, lle i fynd, atyniadau ayyb. Byddai agweddau eraill o’r swydd yn cynnwys sefydlu a threfnu digwyddiadau cymunedol yn yr ardal, prosiectau cymunedol, cynhyrchu mapiau, mapiau lleoliad a Phaneli gwybodaeth ar gyfer rhai prosiectau. Roedd eu cais i’r Gronfa Peilota yn llwyddiannus a cafodd y Swyddog Gwybodaeth ei benodi mis Gorffennaf 2018.