
Sut mae manteisio ar fwrlwm yr Eisteddfod ac ysgogi ymdeimlad o berthyn i gymuned?
Dros y flwyddyn diwethaf, mae Menter Iaith Môn wedi bod yn gweithio ar gynllun cyffrous ar draws Ynys Môn o’r enw Ein Hanes Ni. Bwriad y cynllun yw pontio’r cenedlaethau drwy annog gweithgarwch cymunedol i ymchwilio i ddiwylliant, ieithwedd, hanes a chyfrinachau’r fro na fyddant wedi eu cofnodi ar ffurf draddodiadol o reidrwydd. Mewn ymateb i bryderon fod pobl (hŷn yn enwedig) o fewn ein cymunedau yn dioddef o unigrwydd yn dilyn y cyfnodau’r clo, rhoddwyd cynllun mewn lle i dynnu plant a phobl hŷn at ei gilydd i feithrin a sicrhau cyfathrebu cyson, datblygu sgiliau, cysylltiadau a chyfeillgarwch newydd.
Mae’r Fenter Iaith wedi derbyn adborth calonogol a chadarnhaol gan wylwyr a chyfranwyr, felly fe benderfynom ehangu’r cynllun i Wynedd, gan ganolbwyntio yn gyntaf ar bedair cymuned o fewn dalgylch Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023- Ardudwy, Cricieth, Pwllheli a Thalysarn.