Treialu technoleg digidol sy'n cynyddu annibyniaeth unigolion sydd â dementia neu anabledd dysgu.
Bwriad Crwydro’n Rhydd yw treialu a phrofi technoleg digidol yn y sector gofal er mwyn cynyddu annibyniaeth unigolion boed yn byw gyda dementia neu gydag anableddau dysgu.
Disgwylir i’r prosiect gyfrannu tuag at y gwaith ehangach sydd yn digwydd yn ardal Gwyrfai o greu ‘cymuned dementia gyfeillgar’. Mae’r prosiect wedi cael ei ddatblygu ar y cyd gyda chynrychiolwyr o Cyngor Gwynedd a’r gymuned fusnes lleol.
Gosodwyd 5 teclyn ‘Wandersafe’ yng Nghanolfan Frongoch yn Tachwedd 2018. Mae’r pager yn cael ei roi i’r gofalwr tra mae’r person gyda Dementia yn gwysgo’r synhwyrydd unai o gwmpas eu gwddf neu fel breichled. Os ydy’r person gyda Dementia yn cerdded rhy agos at y drws ffrynt yna mae’r pager yn canu. Bydd y peilot yn parhau tan Ionawr 2020.