Byw a Bod – Digidol

Dangos bod gan Wynedd gyfleoedd gyrfa o ansawdd da yn y sector TGCh, a chyfleoedd byw ardderchog.

Nod y prosiect oedd dangos bod gan Wynedd y canlynol:

  • Cyfleoedd gyrfa o safon dda yn y sector TGCh.
  • Gallu i gynnig cyfleoedd ffordd o fyw rhagorol
  • Yn cynhyrchu gweithlu o safon dda a all ymateb i gyfleoedd yn y sector TGCh.

Mae gan Wynedd sector TGCh sy’n gynyddol lwyddiannus a datblygodd clwstwr ym Mharc Menai, Bangor. Cynrychiolir busnesau sy’n ymwneud â’r sector hwn ar Fforwm Digidol Gwynedd a weinyddir gan Gyngor Gwynedd. Un her allweddol y maent yn ei hwynebu yw recriwtio gweithwyr addas i weithio yn y sector, ac mae rhai o’r cwmnïau’n ystyried adleoli er mwyn cael gafael ar weithwyr. Mae’r her hon yn cyd-fynd â strategaeth Datblygu Lleol Arloesi, gan fod cadw pobl ifanc yn yr ardal yn flaenoriaeth allweddol.

Felly, mae Arloesi Gwynedd Wledig wedi gweithio gyda Fforwm Digidol Gwynedd, sydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Brifysgolion Bangor a Aberystwyth a Chyngor Gwynedd, er mwyn datblygu prosiect peilot. Ceisiodd y prosiect gyflawni’r canlynol: Darparu cyfle proffil uchel ac uchelgeisiol i israddedigion brofi bywyd a gwaith yng Ngwynedd; a dweud wrth y byd amdano.

Gwnaeth Arloesi Gwynedd Wledig recriwtio a chyflogi 4 israddedigion o Wynedd a threfnu lleoliadau gwaith gyda 4 busnes TGCh ym Mharc Menai sef NMi Gaming, Simulity, FundTECh a Megni. Roedd dwy elfen i’r profiad gwaith, sef gweithio’n unigol gyda’r busnesau a hefyd gweithio fel grŵp gyda’r israddedigion eraill. Roedd yn bwysig bod y gwaith yn ystyrlon a diddorol, gan ein bod yn ceisio defnyddio’r profiad i farchnata cyfleoedd.

Hefyd penododd Arloesi Gwynedd Wledig fentor i weithio gyda’r grŵp ar ymateb i’r her “Sut ydym ni’n codi proffil y cyfleoedd sydd ar gael yn y sector TGCh ym Mharc Menai?” Disgwyliwyd y byddai’r grŵp yn nodi beth oedd y cyfleoedd cyflogaeth yn y sector TGCh ehangach (y tu hwnt i’r 4 busnes), a datblygu strategaeth a chynllun gweithredu. Cafwyd digwyddiad ar ddiwedd y prosiect i gyflwyno eu canfyddiadau i randdeiliaid perthnasol e.e. busnesau, pobl ifanc, colegau, sefydliadau pobl ifanc.

Darparwyd cyfleoedd “bywyd” i’r myfyrwyr hefyd a oedd yn cynnwys pysgota cimychiaid ym Mhen Llŷn, dringo yn Eryri, a blasu cwrw lleol mewn bragdy lleol. Y nod oedd tynnu sylw at bopeth yr oedd gan yr ardal i’w gynnig.

Adroddiad Byw a Bod Rhag 2021

Fideos

Y Myfyrwyr -

Diwrnod 1af -

Gweithgareddau yng Nglan Llyn -

Dringo gydag Eben a Glyn -

Pysgota gyda Harri -

Uchafbwyntiau’r Prosiect -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU