Galwad Agored Gofod Gwneud a Caffi Trwsio
Mae Arloesi Gwynedd Wledig, Cyngor Gwynedd ac M-Sparc wedi bod yn llwyddiannus mewn sicrhau grant o Gronfa Buddsoddi Economi Cylchol Llywodraeth Cymru i ddatblygu Gofodau Gwneud a Chaffis Trwsio mewn cymunedau ar draws Gwynedd. Rydym yn chwilio am unigolion a grwpiau cymunedol brwdfrydig i gymryd rhan yn y cynllun hwn!
Mi fydd y cymunedau llwyddiannus yn derbyn offer uwch-dechnoleg a chymorth arbenigol er mwyn sefydlu’r Gofod Gwneud a Chaffi Trwsio.
Beth ydi Ffiws/Gofod Gwneud?
Mae Ffiws/Gofod Gwneud yn ofod cydweithredol sy’n cynnwys offer uwch-dechnoleg (Torrwr Laser, Argraffydd 3D, Gwasg Gwres) ac offer technoleg isel (offer sodro, offer llaw ayyb) sy’n agored i bawb. Mae gan Ffiws ofodau sydd wedi eu lleoli mewn ardaloedd amrywiol ar draws Gogledd Cymru.
Ar hyn o bryd dyma leoliadau presennol Ffiws:
- 125 Stryd Fawr Porthmadog
- Msparc, Gaerwen
- Canolfan Busnes Conwy
- Clwyd Chambers, Rhyl
Bwriad Ffiws ydi:
- Creu cymuned o wneuthurwyr (“makers”) yn yr ardal
- Rhoi mynediad i unrhyw un at offer uwch-dechnoleg
- Annog creadigrwydd a dysgu sgiliau newydd
Beth ydi Caffi Trwsio?
Mae Caffi Trwsio yn gyfarfod/digwyddiad lle mae pobl yn atgyweirio dyfeisiau trydanol a mecanyddol cartref, cyfrifiaduron, beiciau, dillad ac eitemau eraill. Fe’u trefnir gan ac ar gyfer trigolion lleol. Mae Caffis Trwsio yn cael eu cynnal mewn lleoliad sefydlog lle mae offer ar gael a lle gallant drwsio eu nwyddau sydd wedi torri gyda chymorth gwirfoddolwyr. Yr amcanion yw lleihau gwastraff, cynnal sgiliau atgyweirio a chryfhau cydlyniant cymdeithasol.
Hefo’r cynllun penodol yma, byddwn yn disgwyl i’r digwyddiadau Caffis Trwsio gael eu cynnal yn y gofod Ffiws.
Cymorth sydd ar gael:
Mi fydd Arloesi Gwynedd Wledig, Cyngor Gwynedd ac M-Sparc yn:
- Archebu a phrynu offer ar gyfer y gofodau
- Darparu cefnogaeth arbenigol gan dechnegwyr Ffiws
- Darparu Swyddog fydd yn gyfrifol am gydlynu’r cynllun ar draws Gwynedd
- Darparu yswiriant drwy Repair Café Wales
Ymwrymiad y grwp cymunedol:
- Perchnogi’r gofodau
- Darparu gofod addas i leoli Ffiws/Caffi Trwsio
- Trefnu digwyddiadau Caffi Trwsio e.e. un pob mis
- Hyrwyddo’r gofod a digwyddiadau ar gyfryngau cymdeithasol / papurau bro / posteri
- Dod o hyd i wirfoddolwyr fyddai’n gallu rhannu sgiliau a chynnig cymorth hefo’r cynllun
Am fwy o wybodaeth neu I dderbyn ffurflen gais cysylltwch gyda Rhys – rhys@mentermon.com