Helo Port

Cynllun i ddarparu mynediad haws at wybodaeth leol a chasglu adborth gan gymunedau

O ganlyniad i heriau COVID-19, mae nifer o drefi wedi cychwyn gwneud penderfyniadau lleol i ddechrau ailddiffinio ymdeimlad o le i geisio ail-adeiladu’r cysylltiadau yn eu cymunedau. Un cwmni sy’n galluogi hyn yw ‘Helo Lamp Post’ (HLP), sy’n darparu mynediad haws at wybodaeth leol a chasglu adborth am yr ardal gan y cymunedau. Trwy wahodd pobl i gael sgyrsiau chwareus gyda gwrthrychau stryd cyfarwydd fel pyst lamp, blychau post, cerfluniau ac arosfannau bysiau gan ddefnyddio ffôn symudol, anoga HLP pobl i ryngweithio â’u hamgylchedd i greu newid cymdeithasol cadarnhaol, cymunedau mwy cynhwysol, gwella democratiaeth leol a helpu i adeiladu trefi’r dyfodol. Rhodda’r meddalwedd hwn gyfle i bobl roi adborth am yr ardal, yn ogystal â helpu twristiaeth gynaliadwy drwy ledaenu gwybodaeth a negeseuon am fusnesau’r ardal.
Mae cynllun o’r fath yn cael ei redeg ym Mhorthmadog am ddeuddeg mis- Helo Port. Penderfynwyd mai dyma’r dref fwyaf addas ar ei gyfer, gan fod cymysgedd da o bobl leol ac ymwelwyr tymhorol yno, yn ogystal â thechnoleg WI-FI a meddalwedd ‘Patrwm’ wedi cael eu gosod ar hyd y stryd fawr gan Menter Môn.
Hwn fydd y prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae hefyd yn ychwanegu gwerth at brosiect Cyngor Gwynedd- ‘Pontio’r Cenedlaethau’, sef cynllun meinciau cyfeillgarwch. Bydd AGW’n cyfrannu tuag at dair mainc yn y dref i gyd-fynd â’r prosiect hwn, fydd yn clymu i seilwaith rhwydwaith y dechnoleg yn y dref.

Fideos

What is Helo Port? -

Beth yw Helo Port? -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU