Cysawd Eryri

Nod y prosiect hwn yw i weld os gellir ychwanegu gwerth economaidd ac addysgol o'r statws Gwarchodfa Awyr Dywyll sydd wedi caele ei ddynodi ar Parc Cenedlaethol Eryri

Mae hwn yn brosiect cydweithredol rhwng Arloesi Gwynedd Wledig a Pharc Cenedlaethol Eryri.  Prif nod y prosiect hwn oedd ail-greu Cysawd yr Haul o fewn ffiniau Gwynedd. Crëwyd Llwybr Cysawd yr Haul Eryri gan blant o ysgolion lleol ac artistiaid lleol. Aethant ati i greu gosodiadau celf o bob planed, a osodwyd wedyn mewn busnesau ledled Gwynedd.

Gwnaed hyn trwy osod planedau mewn busnesau o amgylch Gwynedd, gan ddefnyddio cymhareb pellteroedd. Mae’r model yn ffordd effeithiol o osod maint Cysawd yr Haul yn ei gyd-destun ac mae’n ychwanegu gwerth at statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Eryri.

Nid yw maint y planedau i raddfa, ond mae’r gymhareb o’u pellter o’r Haul wedi’i raddio. Ar y raddfa hon, cafodd Cysawd yr Haul ei grebachu o ffactor o gant a deugain miliwn i un. (140,000,000 i un).

Dyfarnwyd statws Gwarchodfa Awyr Dywyll i Barc Cenedlaethol Eryri ym mis Rhagfyr 2015. Yn dilyn hyn, rydym yn annog pawb i ddysgu mwy am gysawd yr haul trwy fynd allan ac ymweld â’r gweithiau celf hyn.

Esboniodd Helen Pye o Barc Cenedlaethol Eryri: “Mae’r dynodiad yn wobr bwysig iawn, rydym wedi profi bod ansawdd ein awyr y nos yn rhagorol ac mae ymdrechion gwirioneddol yn cael eu gwneud i leihau llygredd golau.”

Drwy osod y planedau creadigol artistig mewn busnesau o amgylch Gwynedd, caiff llwybr ei greu i bobl ei ddilyn. Ym mhob stop, byddwch yn dysgu am y blaned benodol ac yn deall mwy am raddfa Cysawd yr Haul, tra hefyd yn ymweld â mannau o Wynedd na fyddech efallai wedi bod ynddynt o’r blaen.

Fideos

-

-

-

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU