Ysgol Ynni

Yr ysgol haf i annog plant i ymddiddori mewn ynni adnewyddol.

Nod y prosiect peilot Ynni Plant oedd treialu ysgol haf ynni i blant, er mwyn annog plant rhwng 8 a 12 oed i gymryd diddordeb mewn ynni adnewyddadwy (gyda phwyslais ar ynni dŵr), datblygu eu dealltwriaeth o’r cyd-destun hanesyddol, a chynyddu eu hymwybyddiaeth o amrywiaeth o brosiectau sy’n cael eu datblygu yng Ngwynedd.

Roedd y prosiect yn ceisio dangos y canlynol:

  • Model newydd sy’n ymgysylltu â phlant ifanc er mwyn cynyddu eu llythrennedd ynni yng nghyd-destun ynni lleol.
  • Dangos twf yn y sector ynni adnewyddadwy ac amlygu cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol yn y sector.
  • Treialu gwahanol weithgareddau er mwyn mesur eu llwyddiant wrth ddatblygu diddordeb ymhlith plant ifanc mewn ynni adnewyddadwy.

Penderfynodd Arloesi Gwynedd Wledig dreialu Ysgol Ynni dros wyliau’r haf yn 2016, mewn un ardal fechan, i beilotio’r model o redeg sesiynau ynni gwyrdd i blant ifanc mewn cymunedau gwledig. Teimlwyd y byddai peilota’r model hwn yn gyfle gwych i ddysgu a rhannu arferion gorau gyda chymunedau eraill.

Hefyd penderfynodd Arloesi Gwynedd Wledig benodi person ifanc lleol i gynorthwyo i gydlynu’r sesiynau, fel ffordd o gynnig profiad pellach yn lleol. Buom yn ffodus iawn i dderbyn cais gan Elin Williams i weithio ar brosiect Ysgol Ynni dros yr haf.

Cynhaliwyd nifer o sesiynau wedyn dros yr haf lle datblygodd y plant ddealltwriaeth o gynhyrchu ynni mewn cyd-destun hanesyddol yn ogystal â dysgu am ynni gwyrdd a chyfle i blant gymryd rhan mewn adeiladu tîm a gweithgareddau datrys problemau ynghyd â chyfeiriannu gyda hyfforddwyr addysg awyr agored. Dengys yr adborth a gafwyd gan y cyfranogwyr bod pob sesiwn yn amrywiol a bod y plant wedi dysgu sgiliau newydd yn y maes hwn.

Fideos

Fideo o'r priosect -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU