Yn fy nwylo i – Prosiect VR Dementia

Defnyddio Technoleg VR i godi ymwybyddiaeth o gyflwr Dementia.

Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar y dechnoleg ddiweddaraf i greu byd rhithwir yn seiliedig ar sefyllfa person sy’n byw gyda dementia. Roedd yn creu byd digidol, gan wthio ffiniau o ran defnydd arloesol o dechnoleg i’r perwyl hwn. Roedd defnyddwyr y dechnoleg yn rhan o’r byd digidol ac yn rhyngweithio’n llawn drwy synhwyrydd oedd ar eu dwylo gan eu galluogi i agor drysau, codi gwrthrychau a theimlo fel pe baent yn byw gyda dementia.

Nod y prosiect oedd i greu adnodd i’w ddefnyddio er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddementia gyda amrediad eang o grwpiau o fewn cymunedau, a hefyd er mwyn cynnig hyfforddiant i bobl sy’n dod i gyswllt â phobl sy’n byw gyda dementia yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Y cwmni a gafodd ei gomisiynu i ddatblygu’r profiad rhithiwr oedd Galactig.

Cafodd y technoleg yn cael ei arddangos mewn sioe deithiol oedd yn mynd o gwmpas Llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol yng Ngwynedd ac roedd yr ymateb a dderbyniwyd gan y cyhoedd yn bositif iawn.

Fideos

-

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU