Darn o waith ymchwil sy'n edrych ar fodel posib i "gefnogi busnesau a mudiadau yng Ngwynedd ac Ynys Môn i wneud y mwyaf o'r cyfleon yn y maes carbon er budd economaidd, amgylcheddol a chymunedol i'r ardal".
Yn ddiweddar, comisiynom Grŵp Ymgynghori Lafan i ymchwilio i fodel posib fyddai’n gallu cefnogi busnesau a mudiadau yng Ngwynedd ac Ynys Môn i wneud y mwyaf o’r cyfleon yn y maes carbon er budd economaidd, amgylcheddol a chymunedol i’r ardal.
Fel rhan o’u hymchwil, cynhaliodd Lafan weithdai â rhanddeiliaid, ac eginodd y cysyniad o ‘Hwb Carbon Gwynedd a Môn’, sef adnodd fyddai’n gallu cefnogi a thywys busnesau a mudiadau sydd eisiau bod yn rhan o’r farchnad a’r ymdrechion i ddatgarboneiddio.
Un o brif amcanion hwb o’r fath fyddai cyfeillio busnesau/mudiadau lleol sydd eisiau lleihau eu hôl-troed carbon gyda pherchnogion tir fyddai â diddordeb i’w tir gael ei ddefnyddio i amsugno a chloi carbon dan drefn achrededig annibynnol. Awgrymir byddai’r hwb hefyd yn medru arwain ar broses o lunio ‘Strategaeth Garbon’ i Wynedd ac Ynys Môn, a fyddai’n medru cynnwys targedau sero net fyddai’n cynorthwyo ffyniant sawl diwydiant, megis twristiaeth, amaethyddiaeth, prosesu bwyd, cynhyrchu ynni ayyb.