Tŷ Digidol – Antur Waunfawr

Tŷ sydd wedi cael ei ddylunio i gynnwys technoleg digidol arbrofol fydd yn helpu unigolion ag anghenion arbennig.

Bwriad y prosiect yw sefydlu adnoddau technoleg digidol arbrofol mewn llety newydd gwyliau/ysbaid preswyl sy’n cynnig adnoddau ar gyfer pobl ag anhenion ychwanegol e.e. pobl ag anableddau dysgu neu anableddau corfforol, ar dir Antur Waunfawr. Adeiladir y llety ar hyn o bryd ar dir Capel Bethel sy’n gyfagos i safle 7 acer Antur Waunfawr, gyda maes chwarae arbennig i’r anabl, parc natur, gerddi, caffi ac adnoddau llesiant ychwanegol. Bwriadwn gylfawni’r prosiect i arbrofi a dysgu am anghenion preswylwyr anabl, arddangos a phrofi gwerth y teclynnau digidol ymysg grwpiau o ymwelwyr, asiantaethau a mudiadau o ddiddordeb, defnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd a chwsmeriaid lleol a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal.

Fideos

-

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU