Tafarn yr Heliwr

Cynllun Busnes ar gyfer y dafarn gymunedol yn Nefyn.

Mae’r prosiect yma yn un sydd wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Peilota Gwynedd, sef Cronfa sydd wedi cael ei dargedu at grwpiau cymunedol yng Ngwynedd i’w galluogi i dreialu gweithgareddau newydd yn eu cymunedau.

Mae Tafarn yr Heliwr Cyf yn Fenter Cymdeithasol Er Budd y Gymuned gyda’r bwriad o brynu ac ail-agor Tafarn yr Heliwr yn Nefyn fel Tafarn Cymunedol.

Prif amcan y fenter ydi dod â’r gymuned yn agosach at ei gilydd cyn, yn ystod ac wedi i nhw lwyddo i agor yr hwb cymunedol; cynnig cyfleon gwirfoddoli a chyflogedig yn lleol gan gyfrannu at yr economi. Eu gweledigaeth yw bydd yr hwb cymunedol yn darparu amrediad o wasanaethau i’r gymuned ac yn cynnig caffi/bar; llety ar ffurf byncws cyfforddus a rhesymol a bwydlen syml sy’n gwneud y mwyaf o’r cynnyrch sydd ar gael yn lleol.

Mi roedd y fenter yn llwyddiannus efo’u cais i’r Gronfa Peilota i dderbyn cymorth ariannol i gomisiynu arbenigwr i gynyrchu Cynllun Busnes ar gyfer y dafarn gymunedol. Roedd cael Cynllun Busnes manwl yn hollbwysig i’r fenter yma er mwyn  asesu oblygiadau ariannol llawn y prosiect ac asesu cynaliadwyedd ariannol y prosiect yn y tymor hir, gan roi sicrwydd i’r Pwyllgor ag unrhyw gyrff ariannu bydd cais yn cael ei gyflwyno am gefnogaeth ariannol, fod y Cynllun Busnes yn un cynaliadwy ar gyfer y dyfodol a chynnig gwerth am arian.

Cafodd y Cynllun Busnes ei orffen mis Gorffennaf 2018 a chafodd ei gyflwyno i’r cyhoedd, roedd hyn yn golygu y gallai’r grwp ei ddefnyddio wrth iddynt fynd ymlaen efo’u ymgyrch gwerthu siars cymunedol i atgyfnerthu eu gweledigaeth o ail-agor y dafarn fel Tafarn cymunedol.

Erbyn hyn, mae’r gymuned wedi llwyddo i brynu’r dafarn drwy gasglu dros £85,000 drwy gynnigion siars. Yn ddiweddar, mae Tafarn yr Heliwr wedi gwneud cais am nawdd gan Gwmni Calor fel rhan o Gronfa Gymunedol Wledig. Byddai’r pres yn mynd tuag at beintio tu allan yr adeilad, arwyddion newydd, goleuadau a basgedi blodau.

Mae copi o’r Cynllun Busnes ar gael yma: Tafarn yr Heliwr- Cynllun Busnes

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU