
Nod y prosiect hwn yw gosod systemau digidol mewn cymunedau gwledig.
Mae llawer o gymunedau yng Ngwynedd bellach yn wynebu colli gwasanaethau megis toiledau cyhoeddus a meysydd parcio, oni bai bod y gymuned yn berchen ar yr adeiladau/ gwasanaethau hynny. Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd yr asedau neu’r gwasanaethau hynny, mae wedi dod yn gynyddol glir bod angen i gymunedau allu lleihau eu costau gweinyddol a nodi ffyrdd newydd o sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaethau hyn heb ddibynnu ar wirfoddolwyr.
Nod y prosiect hwn yw gosod systemau digidol mewn cymunedau gwledig a fydd yn treialu:
- A all technoleg newydd gynnig ateb i leihau’r ymdrech ddynol er mwyn agor a chau canolfannau cymunedol pan fo cyfarfodydd byr yn cael eu cynnal?
- A all technoleg ddigidol ar-lein fodern gynnig unrhyw atebion ar gyfer taliadau electronig, fel y gall defnyddwyr gwasanaeth ddod yn noddwyr, gan gyfrannu’n ariannol at gostau rhedeg a chynnal y toiledau?
- A all technoleg ddigidol ar-lein fodern gynnig unrhyw atebion ar gyfer taliadau electronig a rheoli meysydd parcio, fel bod ymwelwyr gwyliau tymor hwy ac ymwelwyr dydd tymor byr yn derbyn y profiad parcio ceir mwyaf priodol.
Rydym ar hyn o bryd yn y broses o gydweithio gyda Data Cymru i osod system SMARTLock yng Nghanolfan Cymunedol Henblas yn Y Bala. Rydym hefyd yn y broses o osod system codi ffi ‘Contacless’ mewn toiledau cyhoeddus cymunedol yn Llanberis.