Siop Griffiths – Canolfan Ddigidol

Offer ar gyfer cynnal Canolfan Ddigidol i'r gymuned ym Mhenygroes.

Mae’r prosiect yma yn un sydd wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Peilota Gwynedd, sef Cronfa sydd wedi cael ei dargedu at grwpiau cymunedol yng Ngwynedd i’w galluogi i dreialu gweithgareddau newydd yn eu cymunedau.

Sefydlwyd Siop Griffiths Cyf i brynu a chynnal hen adeilad ym Mhenygroes, i gynnig cyfleoedd hyfforddiant a swyddi yn y meysydd twristiaeth a lletygarwch, a chynnig gweithgareddau newydd i’r gymuned, yn arbennig pobl ifanc yn y maes ddigidol.

Mae’r grŵp wedi bod yn datblygu menter gymdeithasol ym Mhenygroes dros y ddwy flynedd diwethaf, i ddatblygu busnesau a chyfleusterau cymunedol, a chynnig gweithgareddau newydd. Mae’r prosiect mewn 3 rhan:

  1. i) Agor caffi a chreu 3 swydd – wedi ei hariannu, ac mae’r gwaith yn dechrau ar yr adnewyddu ym mis Ebrill (RCDP)
  2. ii) Agor llety, a chreu 3 swydd a rhaglen hyfforddiant – cais ym mynd i’r Loteri

iii)        Agor Canolfan Creu Ddigidol i’r gymuned a phobl ifanc

Roedd y fenter yn llwyddiannus efo’u cais i’r Gronfa Peilota am gymorth ariannol i brynu offer technolegol er mwyn cynnal sesiynau i’r Ganolfan Ddigidol. Yn y sesiynau yma, roedd y grwp yn cael tiwtoriaid o Brifysgol Bangor i ddod i mewn i gynnig sesiynau creu fideo, podleidiau, blogio a vlogio, a chôdio i’r bobl ifanc. Roedd y pwyslais ar adeiladu ar sgiliau mae’r pobl ifanc wedi ei ddysgu yn barod, a chreu cynnyrch sy’n adlewyrchu’r ardal a’r diwylliant, ond sy’n addas i bobl tu allan i’r ardal.

 

Cafodd un o’r ffilmiau byr a gafodd ei greu gan y bobl ifanc sef “Dial” y wobr am Ffilm Gorau yn eu categori yng Ngwyl Ffilm PICS a cafodd ei enwebu ar gyfer gwobr yn Gwobrau Into Film yn Llundain.

Dyma linc i’r ffilm: https://www.intofilm.org/news-and-views/articles/into-film-awards-2019-nominees#block-dial-revenge

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU