Rhodd Eryri

Mae Rhodd Eryri yn ffordd hawdd i ni i gyd rhoi ychydig o arian i helpu arbed Eryri.

Nod y prosiect Rhodd Ymwelwyr yw profi a oes awydd ymysg ymwelwyr a busnesau i brofi gwahanol ddulliau o godi arian tuag at brosiectau lleol.

Mae Rhodd Ymwelwyr yn gynllun lle mae ymwelwyr yn gwneud rhodd wirfoddol fechan sy’n mynd tuag at brosiectau lleol. Mae’r rhoddion hyn fel arfer yn cael eu gwneud trwy ychwanegu ychydig o bunnoedd at filiau bwyty, llety neu weithgaredd.

Bydd y pwyslais ar weithio gyda gwahanol fathau o fusnesau, a cheisio ystod o ddulliau casglu er mwyn dysgu o’r broses. Os bydd y prosiect peilot yn llwyddiannus, bydd yn darparu llwyfan ar gyfer adeiladu prosiect parhaol.

Cynhaliwyd digwyddiad ym mis Ionawr 2016 i gyflwyno’r cysyniad i’r diwydiant twristiaeth yn Llanberis. Cafwyd presenoldeb da, a rhoddodd yr hyder i ni ddatblygu’r brand, y wefan a’r deunydd marchnata oedd eu hangen i’w lansio ym mis Mehefin 2016. Sefydlwyd pwyllgor rheoli a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sector preifat a Phartneriaeth yr Wyddfa, a blaenoriaethwyd 3 achos. Roedd y rhain yn cynnwys 2 gynllun llwybr troed a rhaglen hyfforddi sgiliau awyr agored i bobl ifanc.

Mae’r prosiect yn mynd rhagddo, ac yn ehangu. Gweler isod y prif gyflawniadau:

  • Sefydlwyd y brand Rhodd Eryri ac mae bellach yn cael ei adnabod yn eang yng Ngwynedd. Ceir cyfres o ffilmiau hyrwyddo, gwefan, a phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol gweithgar.
  • Mae 60 o fusnesau twristiaeth ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy yn aelodau o’r cynllun ac yn defnyddio gwahanol ddulliau o godi arian. Mae’r mathau o fusnesau yn cynnwys bwytai, cynhyrchwyr bwyd, atyniadau a darparwyr gweithgareddau.
  • Ym mis Ionawr 2017, cyhoeddodd Rhodd Eryri eu bod wedi codi £3,500. Aeth y cylch cyntaf hwn o arian tuag at ariannu cwrs achrededig, a gynhaliwyd gan Gymdeithas Eryri, i ddysgu sgiliau cadwraeth traddodiadol ar y mynyddoedd i 48 o bobl ifanc. Rhoddwyd £3,500 i Gymdeithas Eryri er mwyn darparu 40 o raglenni hyfforddiant mewn sgiliau awyr agored i bobl ifanc.
  • Codwyd £10,500 hyd yma ar gyfer nifer o brosiectau yn Eryri. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn hael iawn wedi cytuno i roi arian cyfatebol punt am bunt tuag at arian Rhodd Eryri, sy’n golygu y bydd y prosiect hwn yn awr yn derbyn £21,000.

Fideos

Fideo Hyrwyddo Rhodd Eryri -

Trosolwg Rhodd Eryri -

Cwrs Cadwraeth Rhodd Eryri -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU