Profi gwerth ‘Presgripsiwn Cymdeithasol’ ac ymarfer corff yn yr awyr agored o fewn y Sir hwn, a’r cyfleon economaidd a chymdeithasol a all ddatblygu ohono.
Mae’r peilot yma yn ceisio profi gwerth ‘Presgripsiwn Cymdeithasol’ ac ymarfer corff yn yr awyr agored o fewn y Sir hwn, a’r cyfleon economaidd a chymdeithasol a all ddatblygu ohono.
Mae’r drefn bresennol o ‘gyfeirio i ymarfer’ sy’n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaeth iechyd yn cyfeirio pobl i’r gampfa am 4 wythnos, mae’r math o bobl sy’n cael eu cyfeirio yn cynnwys pobl sy’n gwella o annaf neu angen colli pwysau / cryfhau eu cyrff. Nod y peilot hwn yw fod unigolion sydd wedi cwblhau y 4 wythnos yn y gampfa yn cael dewis ymuno ar y cynllun i barhau gwneud ymarfer corff yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal lle bydd yr offer a’r arbenigedd ar gael drwy’r swyddogion. Y nôd yw fod ymweld a safle naturiol yn annog yr unigolion hynny i barhau i ymarfer corff yn yr awyr agored.
Y bwriad yw cynnal 10 taith dros 10 wythnos, gan gynnig y gweithgareddau canlynol:
- ‘Mindfulness’
- Hanes ac Enwau Lleoedd yr ardal
- Bioamrywiaeth
- Daeareg a Daearyddiaeth
- Ysbrydoliaeth a’r Celfyddydau