Plas Heli

Astudiaeth Dichonoldeb ar hen adeilad bad achub ym Mhwllheli.

Mae’r prosiect yma yn un sydd wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Peilota Gwynedd, sef Cronfa sydd wedi cael ei dargedu at grwpiau cymunedol yng Ngwynedd i’w galluogi i dreialu gweithgareddau newydd yn eu cymunedau.

Mae Plas Heli Cyf yn gwmni di-elw cyfyngedig drwy warant sydd wedi ei sefydlu’n benodol i redeg yr Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Digwyddiadau Cymru.

 

Roedd Plas Heli yn edrych am syniadau i ddatblygu cynlluniau cynaladwy ar gyfer safle yr Hen Glwb Hwylio ym Mhwllheli sy’n ymateb i anghenion a chyfleon lleol. Yng Ngorffenaf 2015, caewyd yr adeilad yma, a symudwyd bopeth i adeilad newydd Plas Heli. Mi wnaethon nhw ddechrau edrych ar syniad o greu llety fforddiadwy i grwpiau, teuluoedd ac ymwelwyr drwy addasu’r hen glwb hwylio. Fodd bynnag roeddent yn teimlo fod angen cefnogaeth pellach i edrych ar y syniad yma ynghyd a syniadau eraill sydd a’r potensial i gynhyrchu incwm y gellir ei cynnwys yn yr Hen Glwb Hwylio, ac roeddent yn awyddus i gael llygaid ffres ar yr adnodd yn ei gyfanrwydd er mwyn asesu prun ai llety yw’r opsiwn gorau.

 

Rhoddodd Plas Heli gais i mewn i Gronfa Peilota Gwynedd ar gyfer derbyn cymorth ariannol i gomisiynu arbenigwr i gynhyrchu Astudiaeth Dichonoldeb o adeilad yr Hen Glwb Hwylio ym Mhwllheli, a cafodd y gais ei gymeradwyo. Cafodd yr astudiaeth ei gwblhau ar ddechrau 2019.

 

Mae copi o’r astudiaeth ar gael yma: Astudiaeth Dichonoldeb Plas Heli

 

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU