O Glust i Glust

Ap sy'n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd

Mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn bwysig yng Ngwynedd ac os yn bosib dylid lleihau rhwystrau i’w ddefnyddio. Mae O Glust yn Glust yn ap cyfieithu ar y pryd sydd yn defnyddio ffonau symudol fel offer cyfieithu ar y pryd.

Y syniad oedd bod modd addasu technoleg sydd yn caniatáu i chi siarad gyda phobl ar draws y byd i weithio o fewn yr un ‘stafell!

Penderfynwyd cydweithio gyda Geosho, cwmni digidol arloesol o Gaernarfon, i ddatblygu’r Ap O Glust i Glust.

Yn amlwg nid pawb sydd yn berchen ar ffôn Android neu heb fynediad i ffonau clyfar o gwbl. Felly’r bwriad yw ailgylchu hen ffonau Android a llwytho’r ap “O Glust i Glust” arnynt.

Mae’r ap ar gael ar Google Play ond mae angen y canlynol ddigwydd iddo lwyddo:

  • Ffynhonnell ffonau Android gellid eu hailgylchu a’u defnyddio fel clustffonau.
  • System i ddosbarthu ffonau a “chargers” i’w defnyddio gan ddefnyddwyr
  • Cyfle i ddangos y system ar waith mewn cyfarfodydd a digwyddiadau

 

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU