Prosiect sy'n ceisio creu rhwydwaith ar draws marchnadoedd Gwynedd a Môn
Bydd y prosiect yn anelu’n gyntaf at gryfhau’r rhanddeiliaid sy’n rheoli’r marchnadoedd drwy greu rhwydwaith sirol draws marchnadoedd cynnyrch lleol. Bydd hyn yn cynnwys gweithdy, cyngor ac arweiniad a gaiff ei gontractio oddi wrth sefydliadau marchnad megis Cymdeithas Genedlaethol Awdurdodau Marchnadoedd Prydain (NABMA) – Llais Marchnadoedd.
Bydd y prosiect wedyn yn cymryd rhan mewn rhaglen o hyrwyddo a recriwtio i gynnwys y farchnad cynhyrchwyr lleol sy’n dymuno archwilio llwybr ychwanegol i’r farchnad.
Yn ychwanegol, drwy hyrwyddo peilot ar draws y ddwy sir, bydd y newydd-ddyfodiaid a’r marchnadoedd a gynhwysir yn y cynllun peilot yn cael dyrchafiad ffocws ychwanegol.
- Cynnig profiad masnachu mewn marchnad
- Cysylltiadau yn y sector
- Mentora
- Cyfle i brofi cynnyrch i’w ddatblygu
Bydd y prosiect –
- Yn dod ag arweinwyr y farchnad at ei gilydd ar ffurf gweithdy a derbyn cymorth a chyngor trwy Gymdeithas Genedlaethol Awdurdodau Marchnadoedd Prydain sy’n darparu cyfleoedd hyfforddi i bawb sy’n ymwneud â rheoli marchnadoedd er mwyn proffesiynoli’r diwydiant marchnadoedd.
- Galwad agored i ddewis 3 marchnad fesul sir er mwyn i’r prosiect peilota y cysyniad ‘Stondin Poeth’ fel sydd yn Cork. Bydd bob marchnad sydd â stondin poeth gyda chyfarpar addas i ganiatáu cynhyrchydd newydd neu gynhyrchydd gwadd i brofi eu cynnyrch yn y farchnad. Bydd y cynhyrchydd newydd / gwestai yn cael ei ddewis gan reolwyr y marchnadoedd o dan feini prawf i’w cytuno yn ystod y gweithdy uchod.
- Hwyluso peilot ‘profi’r farchnad’ yn seiliedig ar gysyniad ‘stondin poeth’ Corc, sef bod gan bob marchnad stondin sydd wedi’i gyfarparu yn llawn i alluogi’r cynhyrchydd newydd neu gynhyrchydd gwadd i brofi’r farchnad ar gyfer eu cynnyrch. Bydd y cynhyrchydd newydd/ gwadd yn cael eu dewis gan y rheolwyr marchnadoedd dan feini prawf i’w cytuno yn ystod y gweithdy uchod.
- Byddai’r stondin yn rhoi profiad gwerthfawr i ymgeiswyr llwyddiannus o ran masnachu a gwybodaeth, rhannu cysylltiadau gwerthfawr, gan ddysgu oddi wrth ddeiliaid marchnad eraill, drwy greu a datblygu rhwydwaith marchnad.
- Bydd pob marchnad yn cael lwfans i wella amlygrwydd a marchnata eu cynnig marchnad ar draws y ddwy sir.