Gwobrau Cymraeg

Cynnal gwobrau busnes ‘Mwyaf Cymraeg yn y Byd’ dros Wynedd.

Roedd y prosiect yn gyfle i ddathlu’r busnesau hynny sy’n elwa ar ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes eisoes, ac yn ei dro, ysbrydoli busnesau eraill.

Roedd y gwobrau i fod yn rhai eithaf gwahanol i’r norm, gan osgoi’r math o wobrau corfforaethol a phroffesiynol, ond yn hytrach cael dull hwyliog, gogleisiol o ddathlu busnesau a oedd eisoes yn defnyddio’r Gymraeg yn eu busnesau. Dewisodd y prosiect 3 chategori, sef ‘Tafarn neu Fwyty Fwyaf Cymraeg’…’Stryd’ a ‘Siop’. Roedd y gwobrau’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn drwm, gyda’r cyhoedd yn pleidleisio dros yr enillwyr.

Crëwyd ffilm fer i ennyn diddordeb yn y prosiect ac i annog aelodau o’r cyhoedd i enwebu’r busnesau Mwyaf Cymraeg trwy gyfryngau cymdeithasol. Enwebwyd dros 100 o fusnesau/ strydoedd bu a dewiswyd y 3 uchaf ym mhob categori. Crëwyd ffilmiau byr ar bob un o’r 9 busnes/ stryd a chawsant eu rhannu trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Cynhyrchodd hyn fwy na 10,000 o ymgysylltiadau, sy’n sylweddol fwy na gwobrau busnes traddodiadol.

Roedd y prif allbynnau fel a ganlyn:

  • Dechrau sgwrs ynglŷn â manteision yr Iaith Gymraeg mewn busnes.
  • Creu 10 ffilm ar y busnesau a’r strydoedd, sy’n tynnu sylw at sut y gall yr iaith Gymraeg ddod â budd i’w masnach.

Enillwyr y gystadleuaeth oedd:

  • Stryd Fwyaf Cymraeg yn y Byd: Stryd y Plas, Caernarfon
  • Tafarn Fwyaf Cymraeg yn y Byd: The Black Boy, Caernarfon
  • Siop Fwyaf Cymraeg yn y Byd: Becws, Aberdaron

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad y prosiect yma.

Fideos

Fideo -

Siop -

Stryd -

Tafarn -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU