Gwlân Gwynedd

Dyma brosiect ymchwil sydd yn edrych ar gyflwr a potensial y diwydiant Gwlan yn Ngwynedd

Mae llawer o dyddynnwyr a ffermwyr yng Nghymru sy’n cadw diadellau o ddefaid Mynydd Cymreig yn ogystal â defaid sy’n cael eu dosbarthu fel rhai brîd prin a all gyflenwi cnu ac edafedd o ansawdd da.

Mae sawl cwmni nyddu a gwehyddu yng Nghymru sy’n hapus i weithio gyda meintiau i gynhyrchu brethyn ac edafedd ar raddfa fach.

Fodd bynnag, bron yn ôl y diffiniad, mae’r cyflenwad ar lefel gwlân ‘diwydiant cartref’ i unigolion a chwmnïau tecstilau bach. I gwmnïau sydd angen gwlân ar raddfa fwy, mae cael gwlân o Gymru gydag unrhyw darddiad olrheiniadwy bron yn amhosibl.

Gelwir glanhau gwlân yn sgwrio gwlân. Mae diffyg cyfleuster sgwrio masnachol lleol yng Nghymru yn aml yn cael ei nodi fel rhwystr i’r diwydiant symud ymlaen.

Gall pris cnu Defaid Mynydd Cymreig fod yn llai na chost cneifio. Nid oes ond ychydig neu ddim cymhelliant ariannol i’r ffermwr fuddsoddi amser neu arian ar ansawdd y cnu.

Ar hyn o bryd, mae gwlân o Wynedd, yn union fel Gwlân Cymreig, yn ymuno â gweddill gwlân Prydain lle caiff ei raddio a’i werthu ledled y byd ar arwerthiannau electronig torfol. Felly, mae’r syniad o darddiad yn cael ei golli gyda Gwlân Cymreig yn cael ei werthu fel Gwlân Prydeinig.

Bwriad yr ymchwil hwn yw archwilio’r cyfle yng Ngwynedd o werthu Gwlân Cymreig fel cynnyrch, a sefydlu a oes angen am Wlân Cymreig fel adnodd i gynhyrchwyr, gwneuthurwyr ac ymwelwyr/ cwsmeriaid.

Rydym yn edrych ar y sefyllfa bresennol a chyfleoedd posibl ar gyfer y diwydiant gwlân yng Ngwynedd.

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad

Fideos

-

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU