Gwerth yn y Wlad – Beicio Ffordd

Prosiect yn edrych ar ychwanegu gwerth i ased naturiol sy'n bodoli'n barod drwy fentro mewn i feysydd awyr agored newydd

Mae’r diwydiant Gweithgareddau Awyr Agored a Threftadaeth yn dod a budd economaidd i Wynedd. Ond mae cwestiwn os yw’r gymuned leol a phobl gynhenid yn manteisio’n llawn o’r asedau sydd ganddynt i gynnig i gyfranogwyr y weithgaredd. Mae’r sector beicio ffordd wedi tyfu’n aruthrol dros y blynyddoedd diweddar gyda 2 filiwn o bobl yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos yn ôl Beicio Prydain, y corff sy’n rheoli’r gamp ym Mhrydain. Mae yno nifer o lonydd a llwybrau beicio dynodedig yng Ngwynedd sydd yn rhoi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgaredd hamdden. Mae yno ddewis o Lonydd Glas, sef llwybrau oddi ar y ffordd sy’n cynnig beicio diogel a hamddenol – fel y Lôn Las Ogwen, Peris, Menai ac Eifion. I ychwanegu gwerth i’r economi leol, awgrymir rhedeg prosiect i gysylltu busnesau gyda beicio. Drwy weithio yn ddwys gyda 5 o fusnesau gellir peilota gwasanaethau amrywiol i feicwyr a monitro diddordeb a defnydd.

Trefnwyd galwad agored yn 2018 i wahodd busnesau arlwyo i fod yn rhan o’r peilot. Y caffi a ddewiswyd oedd:

  • Y Banc, Penygroes
  • Becws Islyn, Aberdaron
  • Lakeside café, Tanygrisiau
  • Caffi Gerlan, Inigo Jones, Groeslon
  • Caffi Cwrw Llyn, Nefyn

Penodwyd ‘Dan Haul Cyf’ i gydweithio gyda’r busnesau. Bydd ‘Dan Haul Cyf’ yn cynnal ymweliad heb rybudd ‘mystery shopper’, yna yn cynnal cyfarfodydd un i un gyda’r caffi i roi adborth a chytuno ar ffordd i wella / a chyngor ar sut i farchnata’r busnes i feicwyr. Bydd cyfres o weithdai yn cael eu cynnal yn ogystal â cyfarpar ‘stand beicio’ ar gyfer pob caffi.

Comisiynwyd AGW y cwmni Dan Haul Cyf i greu taflen Ymarfer Da Beicio Ffordd fel adnodd i fusnesau arall sydd eisiau denu beicwyr. Mae copi o’r dafeln ar gael yma.

Disgwylir y bydd y peilot yn ei le erbyn Haf 2019.

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU