GISDA

Astudiaeth Dichonoldeb ar adeilad hen fanc NatWest, Caernarfon.

Mae’r prosiect yma yn un sydd wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Peilota Gwynedd, sef Cronfa sydd wedi cael ei dargedu at grwpiau cymunedol yng Ngwynedd i’w galluogi i dreialu gweithgareddau newydd yn eu cymunedau.

Mae GISDA yn gwmni elusennol yng Ngwynedd sydd yn darparu gwasanaeth cefnogol cynhwysfawr i bobl ifanc digartref a bregus ers 32 o flynyddoedd. Mae GISDA yn gwmni profiadol a blaengar oddi fewn i’r trydydd sector yng Nghymru ac mae eu profiad yn dangos fod pobl ifanc bregus angen cefnogaeth holistig i’w galluogi i symud ymlaen yn eu bywyd.

Mae prif swyddfa GISDA wedi leoli ar Y Maes yng Nghaernarfon, adeilad mae’r cwmni bellach yn berchen arno diolch i grant CFAP Llywodraeth Cymru yn 2017. Erbyn hyn mae GISDA hefyd wedi prynu yr adeilad drws nesa, sef hen fanc Natwest. Mi fuodd GISDA yn llwyddiannus gyda eu cais i Gronfa Peilota Gwynedd er mwyn derbyn cymorth ariannol i gomisiynu arbenigwr i gynnal Astudiaeth Dichonoldeb ar adeilad hen fanc Natwest drws nesaf i’w swyddfeydd presennol yng Nghaernarfon.

Dymuniad y grwp oedd cael defnyddio’r gofod newydd fel swyddfeydd, ystafelloedd cyfarfod/ymgynghori, gofod amlbwrpas ar gyfer creu a datblygu technoleg ayyb. Mi fydd yr astudiaeth yn amlygu y defnydd posibl o’r gofod ac yn galluogi’r grwp i wneud y mwyaf o’r asedau y maent yn berchen arno.

Astudiaeth Dichonoldeb Adeilad Natwest

 

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU