Gofod Gwneud sydd wedi cael ei leoli mewn siop wag ar stryd fawr Porthmadog
Beth ydi Ffiws?
Gofod Gwneud cydweithredol sydd wedi cael ei leoli yn 125 Stryd Fawr, Porthmadog ydi Ffiws. Mae’r gofod yn cynnwys amryw o wahanol offer uwch-dechnolegol yn ogystal â offer electroneg ac offer llaw.
Pa fath o offer sydd ar gael yn Ffiws?
- Argraffwyr 3D
- Peiriant Laser
- Peiriant CNC
- Gwasg Gwres (Heat Press)
- Gwasg Myg (Mug Press)
- Argraffwr Sublimation
- Torrwr Vinyl
- a mwy…
Pwy sydd yn cael defnyddio’r offer?
Mae’r gofod yn agored i unrhyw un dros 18 ac i blant rhwng 14 ac 18 gyda oedolyn cyfrifol. Mi fyddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau arbennig ar gyfer plant o dan 14.
Mi fydd yn RHAID mynychu Sesiwn Cynefino (Induction) cyn defnyddio unrhyw ddarn o offer yn y gofod.
DOGFENNAU FFIWS:
Ffiws Asesiad Risg Cyffredinol
Offer Ffiws – Dulliau Gweithredu’n Diogel
Beth ydi oriau agor Ffiws? (Wedi gorfod newid oherwydd COVID-19)
Dydd Llun CAU
Dydd Mawrth CAU
Dydd Mercher 9-5
Dydd Iau CAU
Dydd Gwener 9-5
*RYDYM NAWR YN GWEITHIO DRWY SYSTEM APWYNTIADAU. I WNEUD APWYNTIAD CLICIWCH YMA
I archebu lle yn y gweithdai, ewch i dudalen Eventbrite AGW – Arloesi Gwynedd Wledig Events | Eventbrite
Pwy sy’n ariannu’r prosiect?
Mae Ffiws wedi cael ei ariannu gan Arloesi Gwynedd Wledig a Chynllun Arfor Cyngor Gwynedd.
Arloesi Gwynedd Wledig sy’n rhedeg y cynllun LEADER yma yng Ngwynedd. LEADER yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio dull arbennig o ddatblygu lleol mewn ardaloedd gwledig. Mae’n gynllun â gyllidir gan yr UE a Llywodraeth Cymru. Mae pwyslais ar brosiectau peilot er mwyn dysgu a rhannu arfer da.
Mae rhaglen ARFOR yn gweithio ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr. Cronfa arbrofol yw’r rhaglen, sy’n bwriadu creu mwy a gwell swyddi yng nghadarnleoedd y Gymraeg a chefnogi twf yr iaith. Mae ARFOR yn cynnwys cyfuniad o gynlluniau lleol a gweithgareddau ar draws y pedair ardal.
Beth ydi bwriad y prosiect?
- Creu cymuned o wneuthurwyr (“makers”) yn yr ardal
- Rhoi mynediad i unrhyw un at offer uwch-dechnoleg
- Annog creadigrwydd a dysgu sgiliau newydd
- Y gobaith ydi y bydd y gymuned yn gallu perchnogi’r cynllun a’i gario ymlaen tu hwnt i’n prosiect peilot ni
Am fwy o wybodaeth neu os hoffwch chi gymeryd rhan mewn unrhyw ffordd drwy fynychu digwyddiad/gweithdy neu cynnal un eich hunain, cysylltwch efo Rhys ar rhys@mentermon.com / 01766 514057.