Cynllun peilot i greu strategaeth ynni cymunedol.
Prif nod yr astudiaeth dichonoldeb oedd i adnabod cyfleoedd i: –
- Gynyddu’r nifer o gynlluniau cynhyrchu a storio ynni carbon isel – trydan, gwres a thanwyddau – ym mherchnogaeth gymunedol,
- ddefnyddio’r ynni o’r cynlluniau hyn yn yr ardal gan defnyddwyr/defnydd sydd yn bodoli eisoes, a defnyddwyr potensial a newydd gellir eu creu neu ddenu i’r ardal, yn ogystal â chyfleon creu incwm yn lleol trwy werthu’r ynni i ardaloedd eraill.
Mae Egni Bro yn cynnwys Blaenau Ffestiniog, Trawsfynydd ac yna’n dilyn Afon Dwyryd a Dyffryn Maentwrog trwy Benrhyndeudraeth i lawr i Borthmadog.
Mae’r strategaeth yn nodi cyfleon i fentrau ynni cymunedol unigol yn yr ardal gydweithio er mwyn cyrraedd y 5 amcan canlynol:
o Cyfrannu at wneud yr ardal yn un carbon sero
o lleihau tlodi tanwydd
o Creu a diogelu swyddi yn lleol
o Cryfhau’r economi leol
o Gwella hyfywdra ariannol cynlluniau ynni cymunedol
Mae’r strategaeth yn edrych ar ffynonellau‘r ynni a ddefnyddir yn yr ardal ar hyn o bryd ar gyfer trydan gwresogi a chludiant gan ddefnyddwyr yn y sectorau domestig, masnachol, cyhoeddus a’r 3ydd sector, ac yn adnabod cyfleon cyfnewid yr ynni a thanwydd a mewnforir efo cynnyrch lleol gan fentrau cymunedol.
Mae’r strategaeth yn nodi cyfleon defnyddio modelau marchnata ynni yn lleol newydd arloesol fel ‘Energy Local – Ynni Lleol’, ‘blockchain’, yn ogystal â gwifrau a rhwydweithiau dosbarthu newydd ym mherchnogaeth gymunedol.
Mi wnaeth Arloesi Gwynedd Wledig a Chwmni Bro Ffestiniog benodi Egnida Consulting i gyflwyno’r astudiaethau, a mae copi o’r astudiaeth ar gael yma.