Data Gwynedd

Defnyddio a dadansoddi data wedi ei gasglu drwy Wi-Fi mynediad agored mewn 10 cymuned yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wrthi’n gosod wifi cymunedol mewn 10 cymuned a fydd yn darparu mynediad i’r cyhoedd i wifi am ddim. Bydd hyn yn ychwanegol at gymunedau sydd eisoes wedi gosod y dechnoleg e.e. Caernarfon ac Aberdaron.  Mae AGW hefyd wedi comisiynu ymarferoldeb i osod ateb wifi/ band eang o gwmpas Yr Wyddfa. Bydd y rhain yn darparu gwasanaeth pwysig i’r cyhoedd, fodd bynnag, y potensial ‘arloesi’ go iawn yw harneisio a defnyddio’r data.

Bydd y prosiect hwn yn dangos sut y gellir defnyddio’r data hwn a bydd yn cynnwys dwy elfen sylfaenol.  Mae’r rhain fel a ganlyn:

  1. Casglu Data

Bydd prosiect WiFi Cymunedol Gwynedd yn casglu dadansoddiadau data sylfaenol a fydd yn cael eu hanfon at bob cymuned.

  1. Cymunedau deallus

Bydd y wifi cymunedol wedi ei osod mewn 10 cymuned ar draws Gwynedd erbyn Ebrill 2019 a rhaid i’r holl ddefnyddwyr ddarparu cyfrif e-bost/ cyfryngau cymdeithasol dilys i gael mynediad i’r gwasanaeth. Yn gyfnewid am y wifi am ddim, rhaid i’r defnyddwyr gytuno y gellir defnyddio eu manylion at ddibenion marchnata cymunedol e.e. derbyn cylchlythyr, gwybodaeth am ddigwyddiadau ayb.

Roedd y prosiect RCDF yn cefnogi cost gyfalaf gosod y wifi cymunedol, ond mae gwerth ychwanegol sylweddol wrth ddefnyddio’r data.  Bydd y prosiect hwn hefyd yn rhoi cymorth i gymunedau greu defnyddiau a thargedu defnyddwyr y wifi cymunedol.  Mae eto botensial i ddadansoddi’r data a theilwra gwybodaeth yn ôl nodweddion y derbynwyr e.e. a ydynt yn ymweld yn rheolaidd (bob penwythnos) neu a ydynt yn ymweld am eu gwyliau blynyddol. Bydd y gefnogaeth sydd i’w darparu fel a ganlyn:

  • Darparu hyfforddiant ar ddefnyddio data drwy’r prosiect WiFi Cymunedol
  • Darparu hyfforddiant ar greu cynnwys (i gynnwys ysgolion a grwpiau cymunedol)
  • Darparu hyfforddiant ar ddefnyddio meddalwedd addas e.e. mailchimp, survey monkey, y gellid ei integreiddio.
  • Cefnogaeth i greu templed cylchlythyr addas i’w ddefnyddio ym mhob cymuned.
  • Cefnogaeth i greu a chyfieithu’r cylchlythyr

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU