Cymunedau Cysylltiedig (Cydweithredol Gwynedd a Môn)

Ydi cymunedau'n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn ag atebion band eang os ydynt yn cael y wybodaeth cywir?

Mae mynediad band eang wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf yng Ngwynedd ac Ynys Môn, ond mae nifer o gymunedau yn dal heb fynediad at Fand Eang Cyflym Iawn. Gall hyn amrywio o bentrefi cyfan megis Croesor a Llanymawddwy yng Ngwynedd, i ardaloedd gwasgaredig bach yn ward Seiriol a Bodorgan yn Ynys Môn.

Mae’r prosiect hwn yn ceisio rhoi gwybodaeth i gymunedau archwilio opsiynau band eang eraill.

Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • TV Whitespace (<https://www.nominet.uk/tvws-brings-broadband-to-rural-wales/> )
  • Wifi cymunedol (<http://www.aberdaronlink.co.uk/wi-fi.html> )
  • B4RN Rhwydwaith Ffibr wedi ei Hunan Balu (<https://b4rn.org.uk/> )
  • Band eang diwifr llinell golwg (<https://blaze-wireless.co.uk/wc.php> )

Ymwelodd dirprwyaeth o Ynys Môn a Gwynedd yn ddiweddar â phrosiect yn Swydd Gaerhirfryn i weld sut roedd B4RN wedi darparu cyflymder band eang 1GB i 3,000 o drigolion mewn busnes yn y sir, heb unrhyw gyfranogiad gan y prif ddarparwyr.  Ceir enghraifft hefyd yn Ne Cymru ym mhentref Michaelston y Fedw: (https://www.theguardian.com/uk-news/2018/jun/27/welsh-village-residents-dig-15-miles-trenches-faster-wifi-michaelston-y-fedw)

Trwy broses alwad agored, gwahoddir cynrychiolydd cymunedol i gael mynediad at y cymorth arbenigol canlynol:

  • Canllawiau ar ddiffinio’r ddarpariaeth band eang cyfredol mewn ardal a’r prif rwystrau i gael mynediad at gyflymder gwell.
  • Cefnogaeth i nodi’r galw tebygol am well darpariaeth band eang
  • Cyflwyniad i wahanol dechnolegau i ddarparu band eang
  • Cyflwyniad i fodelau cymunedol sy’n caniatáu i breswylwyr berchnogi a rheoli’r gwasanaeth band eang

Byddai’r cymorth a ddarperir yn cael ei roi trwy gyfres o weithdai a chefnogaeth 1 i 1 trwy ymweliadau safle. Rhaid pwysleisio mai’r prif nod yw ‘meithrin capasiti’ i alluogi cymunedau i ddyfeisio a datblygu eu datrysiad eu hunain.

Bydd cymunedau â chapasiti mewn sefyllfa dda i gael gafael ar arian trwy amrywiol ffynonellau i weithredu eu cynlluniau e.e. Cynllun Taleb Band Eang RCDF, LlC. Cafwyd ceisiadau llwyddiannus yn ystod cyfnod EOI yng Ngwynedd ac Ynys Môn i ariannu hyd at 5 o atebion band eang ym mhob Sir.

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU