
Treialu llwyfannau Cyllid Torfol ar gyfer codi arian cymunedol.
Gyda llai o grantiau ar gael i fusnesau a grwpiau cymunedol, mae’n bwysig archwilio opsiynau cyllido amgen. Roedd Ynni Ogwen ac Ynni Padarn Peris eisiau codi hyd at £750,000 ar gyfer dau gynllun dŵr cymunedol a chytunodd Arloesi Gwynedd Wledigi gydweithio â nhw i dreialu ymgyrch cyllido torfol i fesur ymateb y cyhoedd. Byddai’r gefnogaeth a gynigiwyd yn cynnwys creu ffilm hyrwyddo, ymgyrch cyfryngau cymdeithasol, cynhyrchu deunydd marchnata a digwyddiadau.
Gweithiodd Arloesi Gwynedd Wledig ynagos gyda’r ddau grŵp i gydlynu a chyflwyno’r ymgyrch cyllido torfol. Roedd y prif elfennau fel a ganlyn:
- Cynhyrchu strategaeth farchnata yn amlinellu’r gynulleidfa darged, a sut y byddid yn ymgysylltu â nhw.
- Cynhyrchu 2 ffilm hyrwyddo ddwyieithog yn darparu manylion am y cynnig rhannu cymunedol.
- Cefnogaeth i gyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus yn y ddwy gymuned.
- Cefnogi ymgyrch cyfryngau cymdeithasol dwys i hyrwyddo’r ddau brosiect.
Roedd y ddwy ymgyrch yn llwyddiant gan gyrraedd y targed o £750,000 o fewn dau fis. Mewn gwirionedd, roedd yn rhaid i fuddsoddwyr gael eu gwrthod tuag at y diwedd. Erbyn hyn mae’r cynlluniau wedi’u hadeiladu ac yn cynhyrchu pŵer. Er mwyn dysgu cymaint o’r broses â phosib, anfonodd Arloesi Gwynedd Wledig holiadur at bob buddsoddwr i fesur pam fod pobl yn buddsoddi, a hefyd cynhyrchwyd ffilm ar y “gwersi a ddysgwyd.” Roedd y prif wersi a ddysgwyd fel a ganlyn:
- Bod creu fideos proffesiynol mewn ffordd effeithlon iawn yn hybu’r ymgyrch gan ei fod yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r prosiect, ac wedyn yn lledaenu’r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect.
- Y ffordd fwyaf effeithiol o gynyddu’r niferoedd sy’n gwylio fideos sydd wedi’u llwytho i fyny ar eu tudalennau Facebook. Dim ond 30-40 oedd yn gwylio fideo hyrwyddo yn uniongyrchol ar sianel You Tube Arloesi Gwynedd Wledig, tra gwyliodd tua 20 mil o bobl yr un fideo trwy Facebook.
- Wedi canfod bod pobl leol yn barod i fuddsoddi eu harian mewn prosiectau lleol oherwydd eu bod yn gwerthfawrogi’r budd cyffredinol a fydd yn dychwelyd i’r gymuned.